Jump to content

03 Gorffennaf 2018

Cymryd y risg iawn i ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer pobl dan 35

Cymryd y risg iawn i ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer pobl dan 35
Flwyddyn ar ôl ennill y wobr ‘Creu Creadigrwydd’ yn y Gynhadledd Tai Fawr) y llynedd, Hazel Davies o Newydd fu’n asesu sut mae’r prosiect Rooms4U yn dod yn ei flaen.


Mae pawb ohonom yn siarad am brinder llety un ystafell wely, prinder opsiynau tai i bobl ifanc, cenhedlaeth newydd yr ydym yn cael trafferth ei deall, sut mae diwygio llesiant yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc. Fodd bynnag, y cwestiwn y mae gwir angen i ni ei ofyn yw, ‘Beth ydyn ni’n ei wneud ynghylch y peth?’


Gwyddom fod y sector rhentu preifat ar hyn o bryd allan o gyrraedd pobl ifanc os ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel, ac eto does gyda ni ddim ateb ynglŷn â’r ffordd orau y gallwn ni eu cefnogi a’u meithrin fel y byddan nhw’n gallu rheoli eu tenantiaeth eu hunain yn annibynnol.


Cynlluniwyd Rooms4U yn wreiddiol i wrthsefyll yr effeithiau y byddai cyflwyno’r Lwfans Tai Lleol yn ei gael ar bobl sengl dan 35 oed, ac yn fuan fe ddaeth yn brosiect yr oedd sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig yn awyddus i wybod mwy amdano.


Gwibiodd yr ychydig fisoedd cyntaf heibio wrth i ni geisio canfod prosiectau tebyg eraill oedd eisioes wedi datblygu llety a rennir ac a allai’n goleuo nid yn unig ynghylch yr heriau o'n blaenau ond hefyd y straeon llwyddiant. Ac yn wir roedd llawer ohonyn nhw, ond nad oes digon o sôn amdanynt wrth i ni bob amser edrych fel petaem ni’n canolbwyntio ar y negyddol.


Datblygodd y prosiect yn sydyn nifer o eiddo ar gyfer rhannu meddiant ledled Bro Morgannwg a bu rhaid i ni addasu i newidiadau cyson amgylcheddau a sefyllfaoedd y tenantiaid yn ein hadeiladau. Roedd yna chwerthin, dagrau a chryn dipyn o strancio ond er gwaethaf hyn i gyd y cyfan oedd y bobl ifanc hyn eisiau oedd rhywle i’w alw’n gartref, lle bydden nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn gallu adeiladu perthynas.


Roedden ni eisiau gweiddi o bennau’r tai ein bod wedi dod o hyd i ateb (un bach, mae’n wir, o fewn y darlun mawr), felly fe wnaethom ni gais i banel ‘creu creadigrwydd’ Cartrefi Cymunedol Cymru ar iddyn nhw ystyried ein prosiect fel un oedd yn arloesol ac yn effeithio nid yn unig ar fywydau’n tenantiaid ond hefyd ar y sector. Roedden ni’n ddigon ffodus i fod ymhlith y prosiectau rhyfeddol a gipiodd wobr ac roedden ni ar ben ein digon!


Mae’n agos i flwyddyn ers i ni dderbyn y wobr ac mae llawer wedi digwydd ers hynny. Bu newid mawr hefyd wrth i Teresa May gyhoeddi fod gweithredu’r Lwfans Tai Lleol ar gyfer y sector rhent cymdeithasol yn cael ei wyrdroi, a’n rhoddai ni mewn sefyllfa ble’r oedden ni’n cwestiynu’r galw gan ymgeiswyr am lety a rennir a’r ymroddiad gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddynodi eiddo i’w addasu neu eu hadeiladu ond a oedd hefyd yn ein gwneud yn chwilfrydig ynglŷn â sut y byddai’r sector yn ymateb.


Cefnodd llawer o sefydliadau ar eu cynlluniau tai a rennir. Byddai’n rhy ddwys i’w rheoli, ddim yn ariannol hyfyw, ddim yn flaenoriaeth - dim ond rhai o’r rhesymau na allen ni fel sector ddal ati gyda’n cynlluniau i ddatblygu datrysiad ar gyfer pobl ifanc.


Mae’n deg deud bod y rhesymau hyn i gyd yn rhai dilys yn rhyw ffurf neu’i gilydd, oherwydd y pwysau cynyddol ar gyllideb a gyda’r Credyd Cynhwysol ar fin dod i rym, ond dal ati wnaeth Rooms4u, yn benderfynol o brofi’r dyfroedd fel y gallem roi gwerthusiad i’r sector a allai symbylu unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i ddatblygu prosiectau cyffelyb.


Rydym yn dod at ddiwedd hynny nawr sy’n golygu y galwn yn fuan rannu gyda chi y gwersi a ddysgwyd, beth oedd yr heriau ond yn bwysicaf oll, y straeon cadarnhaol. Bydd rhaid i chi aros am y gwerthusiad i gael y manylion blasus - ond gyda lwc bydd yn eich gadael yn holi, ‘Beth ydyn ni’n ei gynnig i bobl ifanc?’


Pobl lwc i bawb sy’n ymgeisio am wobr eleni!


https://chcymru.org.uk/uploads/resources_welsh/Pat-Chown-2018_CYM.pdf