Jump to content

08 Ebrill 2020

Cymorth hanfodol mewn cyfnod heriol

Cymorth hanfodol mewn cyfnod heriol
Mae Rachel Rowberry, Swyddog Cynhwysiant Ariannol Cymdeithas Tai Newydd, yn rhannu’r heriau sy’n wynebu ei thîm wrth gefnogi tenantiaid drwy bandemig Covid-19


“Mae coronafeirws yn effeithio’n ariannol ar lawer o’n tenantiaid oherwydd colli swyddi, absenoldeb seibiant ar dâl is, gostwng eu horiau, neu drwy fod yn hunangyflogedig ac yn methu gweithio, yn ogystal â’r rhai sy’n dost neu’n hunanynysu.


Gwelsom gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau i’r Tîm Cynhwysiant Ariannol gyda thenantiaid yn pryderu na fyddant yn gallu talu eu rhent a bwydo eu hunain a’u teuluoedd. Mae’r ansicrwydd yn arwain at straen a phryder yn ogystal â rhoi pwysau ar eu sefyllfa ariannol. Rydym yn awr yn cefnogi llawer o denantiaid drwy amrywiaeth o amgylchiadau, gyda llawer ohonynt erioed wedi defnyddio’r system budd-daliadau o’r blaen a heb ddim syniad ble i ddechrau arni, beth y dylent wneud cais amdano a phwy all eu helpu.


Fel tîm rydym yn gwirio drwy’r amser ac yn gwneud yn siŵr fod yr wybodaeth ddiweddaraf gennym am newidiadau i fudd-daliadau a chyhoeddiadau gan y Llywodraeth i roi’r cyngor gorau a fedrwn i’n tenantiaid. Rydym wedi ychwanegu tudalen ar ein gwefan i roi gwybodaeth a dolenni defnyddiol i denantiaid ar yr help ariannol sydd ar gael iddynt a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.


Gan ddilyn canllawiau’r Llywodraeth i aros gartref i atal lledaenu’r feirws, rydym wedi gorfod addasu ein dull arferol o ymweld â thenantiaid yn eu cartrefi. Buom yn cysylltu â thenantiaid ac yn cwblhau asesiadau dros y ffôn yn lle hynny. Bu hyn yn llwyddiannus ac mae’r rhan fwyaf o denantiaid yn ymddangos yn fodlon iawn gyda’r cyfarwyddyd, fodd bynnag mae rhai tenantiaid sy’n cael trafferthion i fynd ar-lein a chanfod eu ffordd o gwmpas gwefannau i wneud cais am y budd-daliadau angenrheidiol ac mae hynny’n ychwanegu at yr her. Oherwydd GDPR mae cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ei wneud heb ganiatâd ysgrifenedig gan y tenant, sy’n achosi llawer o rwystredigaeth i ni a hwythau.


Anelwn gefnogi a helpu tenantiaid hyd eithaf ein gallu drwy’r cyfnod anodd a heriol iawn, ond mae tueddiadau’n ymddangos eisoes. Gwelsom gynnydd yn nifer y bobl sydd angen talebau banciau bwyd, cynnydd mewn ymgeiswyr am daliadau argyfwng o’r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn a mwy o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn gwneud cais am ostyngiad Treth Gyngor. Mae’n rhaid gwneud y ceisiadau hyn ar-lein, ac mae hyn yn gwneud y broses yn anodd gan nad oes gan rai fynediad i’r rhyngrwyd neu ddyfais ddigidol.


Mae’r gohiriad 5 wythnos am daliadau unwaith y maent wedi hawlio Credyd Cynhwysol yn un o’r pryderon i lawer o denantiaid. Aeth nifer o wythnosau heibio ers i rai tenantiaid dderbyn cyflog neu incwm. Gall tenantiaid wneud cais am y taliadau ymlaen llaw o’r Credyd Cynhwysol fodd bynnag bydd yn rhaid ad-dalu blaendaliadau maes o law. Gwnawn yn siŵr fod tenantiaid yn derbyn y budd-daliadau mae ganddynt hawl iddynt ac yn trafod gwariant i’w cefnogi wrth flaenoriaethu biliau. Mae’r cwmnïau cyfleustod hefyd yn cynnig cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn a rydym yn cynghori tenantiaid i gysylltu â’u cyflenwr os ydynt yn cael anhawster.


Mae llawer o sefydliadau yn addasu eu dulliau gweithredu yn cynnwys y banciau bwyd lleol sy’n gweithio’n galed iawn i gefnogi cynifer o bobl ag sydd modd, tebyg i Fanciau Bwyd Bro Morgannwg sy’n awr yn cynnig dosbarthu parseli bwyd i gartrefi.


Ar adeg o ansicrwydd rydym hefyd yn cael straeon cadarnhaol am gymunedau yn tynnu ynghyd a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dywedodd un tenant wrthyf ei fod yn hunangyflogedig ac wedi colli ei waith. Gofynnais iddo os oedd ganddo fwyd a dywedodd fod ei gymdogion oedrannus wedi gadael parsel o fwyd iddo ar garreg ei ddrws, gan ddangos fod ysbryd cymunedol go iawn yn bodoli yn ystod y cyfnod anodd hwn.”


Mae canllawiau ar y gefnogaeth sydd ar gael i chi ar wefan Newydd yma


https://www.newydd.co.uk/money-advice/coronavirus-financial-guidance


I siarad gyda rhywun o’n Tîm Cynhwysiant Ariannol ffoniwch Newydd ar 0303 040 1998 neu e-bost enquiries@newydd.co.uk


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn rhoi sylw i’w gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch hon drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi