Jump to content

09 Mai 2022

Cymdeithasau tai â rôl allweddol mewn atal unigrwydd

Cymdeithasau tai â rôl allweddol mewn atal unigrwydd

Unigrwydd yw thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni (9-15 Mai) - mater hollbwysig a all effeithio ar bobl o bob cefndir, ar wahanol adegau ac mewn gwahanol ffyrdd.

Mae rhai grwpiau yn fwy bregus nag eraill i unigrwydd. Caiff yn aml ei gysylltu gyda phobl hŷn – dywedodd 14.5% o bobl rhwng 65-79 oed a 29.2% o bobl dros 80 oed eu bod yn unig beth neu drwy’r amser. Yn ychwanegol, canfu ymchwil gan ONS fod oedolion sengl neu weddw mewn risg uwch o brofi unigrwydd, yn ogystal â’r rhai sy’n rhentu yn hytrach nag yn berchen eu cartref.

Fodd bynnag, canfu ymchwil gan elusen addysgol Demos fod preswylwyr tai ymddeol hanner mor debygol o ddweud eu bod yn teimlo’n euog â’u cyfoedion yn y boblogaeth yn gyffredinol.

I helpu atal arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau llety â chymorth a gwasanaethau eraill sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol, gan roi cyfleoedd iddynt feithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch. Mae’r rhain yn cynnwys tai gwarchod, byw annibynnol, gofal ychwanegol ac (yn fwy diweddar) gynlluniau gofal agos. Mae ymchwil i gynlluniau tai ar gyfer pobl hŷn (astudiaeth DICE) yn neilltuol yn awgrymu bod gan y math yma o dai gyda gofal a chymorth ran bwysig wrth liniaru unigrwydd yn yr henoed.

Mae ClwydAlyn yn un gymdeithas tai sy’n cynnig y math hwn o gymorth i liniaru unigrwydd a hefyd yn cefnogi tenantiaid gyda phroblemau eraill iechyd meddwl a llesiant. Mae’n rhedeg Hyb Cymunedol iCAN mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Rhyl.

Mae staff yn yr hwb yn cefnogi a rhoi arweiniad i bobl o bob oed i atal eu llesiant meddwl rhag dirywio ac i liniaru gofod cymdeithasol ac argyfwng, mewn lleoliad cymunedol diogel. Gan weithio gyda meddygon teulu lleol, timau iechyd meddwl, partneriaid trydydd sector, swyddogion tai a hyd yn oed filfeddygon a phobl trin gwallt, mae’r help a gynigiant yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn sy’n ymweld ond maent i gyd yn anelu i sicrhau nad yw tenantiaid cymdeithasau tai yn teimlo ar wahân neu’n unig pan fyddant yn cael trafferthion gydag unrhyw ran o’u bywydau.

Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych eu hadnabod yn cael problemau gyda iechyd meddwl neu lesiant ac yr hoffech gael mynediad i gymorth, mae’r GIG yng Nghymru yn hyrwyddo gwahanol wasanaethau am ddim y gallwch eu defnyddio. Ewch i wefan 111.nhs.uk i gael mwy o wybodaeth.