Cymdeithasau Tai yn arwain y dysgu yng nghymunedau Cymru
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, yn cynnal digwyddiad heddiw ar y cyd â NIACE Cymru a WEA Cymru i ymchwilio ac adeiladu ar waith a gynhaliwyd gan y sector cymdeithasau tai yng Nghymru yn darparu sgiliau gwerthfawr a dysgu, prentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth eraill yn eu hardaloedd lleol.
Canfu arolwg diweddar 'Arwain y Dysgu', a gwblhawyd gan 37 y cant o aelodau CHC, fod y cymdeithasau tai hyn yn darparu 1,806 o gyfleoedd cyflogaeth, sgiliau a dysgu yn 2013/14, yn gyfartaledd o 129 ar gyfer pob cymdeithas.
Dywedodd Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio CHC: "Rydym yn sector a all ddarparu a rhagori ar rôl landlord. Mae'r sector yn ysgogydd allweddol ar gyfer cyflogaeth. Mae ein haelodau'n cynnig cyfleoedd amrywiol o amgylch yr agenda cyflogaeth, sgiliau a dysgu megis hyfforddiant sgiliau sylfaenol, prentisiaethau, hyfforddiant galwedigaethol a lleoliadau gwaith - gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru."
Roedd y buddsoddiad yn amrywio rhwng cymdeithasau unigol, ond roedd y gwariant cyfartalog ar weithgaredd yn gysylltiedig â chyflogaeth a sgiliau yn 2013/14 yn £60,000.
Datgelodd yr arolwg hefyd fod 80 y cant o gymdeithasau tai wedi rhoi cymorth i bobl a sefydliadau sydd eisiau dod yn hunangyflogedig neu sefydlu menter gymdeithasol.
Mae CHC hefyd wedi sefydlu Adeiladu Menter, a ariannir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, i gysylltu cymdeithasau tai a mentrau cymdeithasol i ddatgloi'r bunt Gymreig yng nghymunedau Cymru.
Mae'r sector hefyd wedi ymrwymo i gefnogi 'Creu Cymunedau Cryf' Llywodraeth Cymru, sy'n anelu i ostwng y nifer o bobl ifanc rhwng 16-18 a 19-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant erbyn 2017.
Nododd dros hanner yr ymatebwyr (52 y cant) y dadansoddiad oedran ar gyfer y cyfleoedd a ddarperir. O'r rhain, cynigiwyd 20 y cant i bobl ifanc 16-18 oed a 43 y cant i bobl 19-24 oed.
Wrth siarad yn y digwyddiad yn Adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd, ychwanegodd Sioned: "Rydym yn ymroddedig i gael mwy o bobl yn ôl i waith ac ymdrin â lefelau sgiliau isel. Mae heddiw ynglŷn ag adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni eisoes a llunio partneriaethau cryf gyda NIACE Cymru a WEA Cymru i sicrhau ein bod yn darparu hyd yn oed fwy o gyfleoedd ar gyfer ein tenantiaid."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, sydd â chyfrifoldeb am dai:
"Mae cymdeithasau tai, wrth gwrs, yn hollbwysig wrth ddarparu tai diogel a fforddiadwy ledled Cymru. Fodd bynnag, gwnânt lawer mwy na hynny. Mae cwmpas eu gwaith yn enfawr, yn cynnig cyfleoedd ardderchog i denantiaid a'r gymuned ehangach ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau newydd.
"Gobeithiaf y bydd digwyddiad heddiw'n rhoi cyfle defnyddiol i'r ddau sector i ddynodi sut y gallant barhau i fanteisio'n llawn ar y cysylltiadau cryf rhyngddynt, gan helpu i drechu tlodi ar draws Cymru."
Dywedodd Aaron Hill, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus NIACE Cymru: "Mae gan y sector tai yng Nghymru hanes o ymgysylltu'n llwyddiannus gyda rhai o'r bobl sydd wedi eu hallgau fwyaf mewn cymdeithas, gan gynnig cyfleoedd dysgu newydd a chyffrous, yn aml tu allan i amgylcheddau dysgu traddodiadol. Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio digwyddiad heddiw i ddynodi sut y gallai'r sector addysg a'r sector tai gydweithio i wella cyfleoedd ar gyfer tenantiaid a chymunedau, mewn ffordd sy'n sicrhau'r enilliad mwyaf posibl ar fuddsoddiad i bawb."