Cymdeithasau Tai Gogledd Cymru yn cydweithio i ymateb i'r argyfwng costau byw
Mae chwe chymdeithas tai mewn gwahanol rannau o’r Gogledd wedi cydweithio i lunio dogfen sy’n esbonio eu hymateb tymor byr a thymor hirach i’r argyfwng costau byw.
Cyhoeddodd Adra, Cartrefi Conwy, ClwydAlyn, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru a Tai Wales & West Ein Hymateb ar y Cyd i’r Argyfwng Costau Byw: Cymdeithasau Tai ar draws y Gogledd.
Mae Gareth Leech, Arweinydd Prosiect Arloesi Cartrefi Conwy, yn esbonio sut a pham y daeth y cymdeithasau tai at ei gilydd i gyhoeddi’r adroddiad:
“Dyma’r chwe cymdeithas tai gyda chartrefi ar draws y Gogledd. Daeth y syniad yn un o’n cyfarfodydd rheolaidd rhwng ein chwe Prif Swyddog Gweithredol a gwahanol gyfarwyddwyr, ar adeg pan oeddem yn edrych ar ychydig o fisoedd o anodd o gynnydd mewn biliau tanwydd a chostau byw. Roedd yn gwneud synnwyr ein bod yn cydweithio yn ein hymateb i gael y gorau allan o bopeth a wnawn. Ein diben cymdeithasol cyffredinol yw cael effaith gadarnhaol ar bobl leol ar draws y Gogledd a dyna beth oedd yn ein llywio.
“Roedd yr wybodaeth a gasglwyd yn eang. Ceisiodd ddeall agwedd pob sefydliad at flaenoriaethau o amgylch dim achosion troi allan a fforddiadwyedd rhent – yn gadarnhaol, rydym i gyd ar yr un donfedd yn yr ardaloedd hyn ac i gyd wedi ymroi i sicrhau nad oes dim achosion troi allan yn mynd yn ddigartrefedd ac i gadw rhenti yn fforddiadwy.
“Fe wnaethom hefyd edrych ar y gwahanol gynlluniau a’r dulliau gweithredu. Roedd y rhain yn amrywio o sut y darparwn gyngor ar arian a gyda pha sefydliadau eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi cymunedau, i ba brosiectau sydd gennym i fynd i’r afael â thanwydd, bwyd a thlodi digidol.
“Rydyn ni gyd yn wynebu materion tebyg, fodd bynnag mae hefyd wahaniaethau gan ein bod gyda’n gilydd yn gweithredu mewn ardal mor eang, gyda llawer o gymunedau gwledig a threfi arfordirol, a stadau o wahanol faint. Mae hyn yn golygu fod materion lleol penodol y mae’n rhaid i ni deilwra ein cymorth atynt. Un o agweddau cadarnhaol y gwaith hwn yw helpu i adnabod y meysydd hynny o arfer da a dysgu gan ein gilydd gan fod gennym i gyd ein cryfderau unigryw ein hunain.
“Rydym yn ffodus iawn i gael perthynas gynhyrchiol dda rhwng y Prif Swyddogion Gweithredol a chymdeithasau tai yn gyffredinol yn y gogledd. Roedd y cyswllt cynnar a’r negeseuon clir gan y timau arweinyddiaeth yn y sefydliadau hefyd yn help mawr – fel y dywed yr hen air, a fo ben bid bont! Mae’r ‘llwyfan llosg’ y mae’r argyfwng costau byw wedi eu greu wedi helpu i sbarduno cydweithwyr ar draws pob cymdeithas tai i waith. Roedd yn bendant yn iawn yn achos, ydyn, efallai ein bod i gyd dan bwysau, ond ydyn, rydyn ni gyd yn hyn gyda’n gilydd. Rydym i gyd yn gweithio mewn sector sy’n cael ei yrru gan werthoedd lle’r ydym i gyd eisiau cael argraff gadarnhaol ar y cymunedau a wasanaethwn.
“Wrth edrych ar y gwaith sy’n mynd ymlaen ar draws y sector, cefais fy synnu a hefyd ddim fy synnu gan faint o gweithgaredd sydd yna. Pan ydw i’n dweud dim yn synnu, roeddwn yn gwybod bod y math yma o waith cadarnhaol yn mynd rhagddo ar draws y sector a heb fod eisiau ymddangos yn hunanfodlon, mae bron yn ddisgwyliedig bod cymdeithasau tai Cymru yn cyflawni’r mathau hyn o bethau. Pan wyf yn dweud synnu, ehangder y cynlluniau a’r effaith gadarnhaol a gawn ar draws y rhanbarth."
“Yn Cartrefi Conwy rwy’n gallu gweld ein his-gwmni blaengar Creating Enterprise yn darparu popeth o gyflogadwyedd a sgiliau digidol o gymorth ymarferol ac ariannol i helpu ein cymunedau i ffynnu. Rydym hefyd yn ail-lunio ac addasu ein prosiectau a gwasanaethau yn unol gyda’n Strategaeth Effaith Cymdeithasol a lansiwyd yn ddiweddar ac un o’i feysydd ffocws allweddol yw ‘Trechu Tlodi’.
“Mae Clwyd Alyn wedi bod yn rhagweithiol ym maes tlodi bwyd drwy eu menter gymdeithasol ‘Well-Fed’. Maent yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint a Can Cook i gynnig amrywiaeth o fwydydd fforddiadwy a rhatach drwy siopau symudol, prydau ffres o’r oergell a gwasanaethau dosbarthu blychau bwyd i’r rhai mewn angen. Maent hyd yn oed yn cynnig cinio poeth i’r holl staff i’w cefnogi drwy’r argyfwng costau byw.
“Mae Adra a Grŵp Cynefin wedi cydweithio gyda thlodi tanwydd ac yn ariannu cynllun Warden Ynni rhyngddynt. Mae’r wardeiniaid hyn yn rhagweithiol wrth ddarparu cyngor ar arbed ynni, helpu i ganfod tariffau rhatach yn ogystal â chefnogi tenantiaid i wneud cais am unrhyw grantiau neu fudd-daliadau y maent yn gymwys amdanynt. Mae mwy o fanylion ar gael drwy’r ddolen yma ar gyfer Adra a’r ddolen hon ar gyfer Grŵp Cynefin
“Mae Tai Wales & West yn helpu i drechu tlodi digidol drwy edrych ar ddarparu Wi-fi am ddim ym mhob cynllun gydag ardaloedd cymunol i alluogi preswylwyr i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein ac mae rhai datblygiadau newydd hefyd yn cael eu darparu gyda Wi-fi rhad ac am ddim. Mae hyn yn rhywbeth mae Tai Gogledd Cymru hefyd yn ei wneud gyda Wi-fi am ddim mewn rhai cynlluniau yn ogystal â chynlluniau cynhwysiant digidol.”
“Nid yw hyn yn teimlo fel darn o waith unwaith yn unig. Mae’r grwpiau Prif Swyddogion Gweithredol a Chyfarwyddwyr yn dal i gael eu cyfarfodydd rheolaidd. Rwy’n teimlo y gall y ddogfen yma helpu i arwain a llunio trafodaethau ar beth arall y gallem i gyd eu gwneud i gefnogi ein cymunedau lleol. Bu peth symud amlwg o fewn y bartneriaeth. Rydym wedi cynnal cwpl o weithdai yn ddiweddar gyda Cymru Gynnes a National Energy Action i roi sylw i gynlluniau tlodi tanwydd. Rydym hefyd yn edrych ar alinio’r cymorth a’r cyngor a roddwn, yn ogystal ag efallai wneud cais ar y cyd i ehangu cynlluniau tlodi tanwydd i ddarparu gwerth gorau i mwy o bobl. Rydym hefyd yn cysylltu gyda Mudiad 2025 (grŵp yn cynnwys tai cymdeithasol, iechyd, awdurdodau lleol a Phrifysgol Glyndŵr i rannu arbenigedd a chydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd yn y Gogledd) i lansio cynllun Croeso Cynnes, fydd yn rhoi rhwydwaith o fannau cynnes i bobl alw heibio iddynt yn ystod misoedd y gaeaf. Fe wnaethom ni yn Cartrefi Conwy lansio ein cynnig ar draws hybiau cymunedol yn gynnar ym mis Hydref, lle’r ydym hefyd yn darparu bwyd twym ar yr un pryd.
Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen – yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.