Jump to content

26 Gorffennaf 2018

CHC yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar addasiadau tai

Cafodd adroddiad ei gyhoeddi heddiw gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar addasiadau tai yng Nghymru.

Mae'n dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn gynharach eleni, a adroddodd lefelau bodlonrwydd uchel gan y rhai a dderbyniodd waith addasu i'w cartrefi, ond pryderon am gysondeb ac effeithlonrwydd y dull gweithredu presennol.

Yn adroddiad heddiw, canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y system bresennol yn gymhleth tu hwnt ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar y cyfleoedd i wella effeithiolrwydd cost. Mae hefyd yn amlygu fod y system bresennol ar gyfer darparu gwaith addasu yn cynyddu anghydraddoldeb ar gyfer rhai pobl anabl a phobl hŷn, ac mae'r gwahanol ffynonellau o gyllid yn ei gwneud yn gymhleth i drin angen. Yn bwysig iawn, mae'r gwahaniaethau hyn yn golygu fod pobl gydag anghenion tebyg yn derbyn gwahanol safonau gwasanaeth oherwydd dewisiadau polisi cyrff cyhoeddus.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad yw'r system yn darparu ar gyfer y rhai sydd ei angen ac nad yw cyrff cyhoeddus yn manteisio ar gyfleoedd i roi gwerth am arian. Cyflwynwyd chwe argymhelliad i wella'r system, yn cynnwys rhoi blaenoriaeth i sefydlu safonau cenedlaethol gofynnol ar gyfer pob gwaith addasu i sicrhau fod pobl anabl a phobl hŷn yn derbyn safon o'r un gwasanaeth ble bynnag maent yn byw, pwy yw eu landlord a ph'un ai ydynt yn berchen eu cartref eu hunain ai peidio.

Galwodd hefyd ar Lywodraeth Cymru i osod safonau clir ar gyfer profion modd ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a rhoi cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau cyflenwi i wella integreiddio gwasanaethau.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae addasiadau tai yn llinell bywyd hanfodol ar gyfer pobl hŷn ac anabl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ac mae gan gymdeithasau tai rôl hanfodol wrth gyflwyno'r addasiadau hyn i filoedd o bobl yng Nghymru bob blwyddyn

"Lle mae cymdeithasau tai yn darparu'r addasiadau hyn, gwyddom fod lefelau bodlonrwydd y rhai sy'n eu derbyn yn uchel. Fodd bynnag mae adroddiad heddiw yn anelu i fynd i'r afael â materion system i sicrhau safonau gofynnol a mwy o gysondeb mewn darpariaeth ledled Cymru, a rydym yn croesawu argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Mae system addasiadau sy'n ymateb i anghenion poblogaeth heneiddiol Cymru yn allweddol i sicrhau y gall cymdeithasau tai gyflawni ein gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Byddwn yn awr yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i edrych sut y gallwn ymateb yn gyflym ac effeithlon i'r newidiadau a argymhellir gan y Pwyllgor."