Jump to content

24 Medi 2014

Cymdeithasau Tai Cymru yn 'Arwain y Dysgu' yng nghymunedau Cymru.

Cymdeithasau Tai Cymru yn 'Arwain y Dysgu' yng nghymunedau Cymru.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth Cymdeithasau Tai yng Nghymru, mewn cysylltiad â CIH Cymru a NIACE Cymru, heddiw'n lansio'r Wythnos Cyflogaeth a Sgiliau i arddangos bod y sector tai yn helpu tenantiaid i ennill sgiliau gwerthfawr, dysgu, prentisiaeth a chyfleoedd cyflogaeth eraill yn eu bröydd.

Comisiynodd CHC arolwg 'Arwain y Dysgu' i gyd-daro gyda'r Wythnos Cyflogaeth a Sgiliau. Ymatebodd 37 y cant o aelodau CHC i'r arolwg a dengys y canfyddiadau i'r cymdeithasau tai hyn ddarparu 1,806 o gyfleoddd cyflogaeth, sgiliau a dysgu yn 2013/14, yn gyfartaledd o 129 cyfle fesul cymdeithas.

Dywedodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr Interim CHC: "Rydym yn sector a all gyflawni a rhagori o bell ar rôl landlord. Mae'r sector yn ysgogydd allweddol ar gyfer cyflogaeth. Mae ein haelodau yn cynnig cyfleoedd amrywiol o amgylch yr agenda cyflogaeth, sgiliau a dysgu megis hyfforddiant sgiliau sylfaenol, prentisiaethau, hyfforddiant galwedigaethol a lleoliadau gwaith - gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Cymru."

Mae'r buddsoddiad yn amrywio rhwng cymdeithasau, ond roedd y gwariant cyfartalog ar weithgaredd yn gysylltiedig â chyflogaeth a sgiliau yn 2013/14 yn £60,000.

Dangosodd yr arolwg hefyd fod 80 y cant o gymdeithasau tai wedi rhoi cymorth i bobl a sefydliadau sydd eisiau dod yn hunangyflogedig neu sefydlu menter gymdeithasol.

Mae CHC hefyd wedi sefydlu prosiect Adeiladu Menter, a ariannwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, i gysylltu cymdeithasau tai a mentrau cymdeithasol i gloi'r bunt Gymreig yng nghymunedau Cymru.

Mae gan y sector ymrwymiad hefyd i gefnogi 'Adeiladu Cymunedau Cydnerth' Llywodraeth Cymru', sy'n anelu i ostwng nifer y bobl ifanc rhwng 16-18 a 19-24 nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) erbyn 2017.

Nododd dros hanner yr ymatebwyr (52 y cant) y dadansoddiad oedran ar gyfer y cyfleoedd a ddarparwyd a chynigwyd 20 y cant ohonynt i bobl ifanc 16-18 oed a 43 y cant i bobl 19-24 oed.

Ychwanegodd Sioned: "Mae gennym ymrwymiad i gael mwy o bobl yn ôl i waith a mynd i'r afael â lefelau sgiliau isel. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ar nifer o brosiectau yn cynnwys rhaglen LIFT Llywodraeth Cymru, cynllun Cyflogaeth Teulu Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Gloi a Thwf Swyddi Cymru i enwi ond rhai."

Mae Cymdeithasau Tai Cymru hefyd yn mynd i'r afael â phryderon Llywodraeth Cymru fod 46 y cant o denantiaid tai cymdeithasol wedi eu heithrio'n ddigidol. Dywedodd pob aelod a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod wedi helpu tenantiaid i fynd ar-lein yn 2013/14. Roedd y gweithgaredd yn cynnwys cynnig hyfforddiant un i un, mynediad i gyfrifiaduron mewn swyddfeydd, Wi-Fi cymunedol a chyfeirio at sefydliadau fel Cymunedau 2.0.

Ychwanegodd Sioned: "Mae cael tenantiaid ar-lein yn flaenoriaeth ar gyfer ein sector. Yn ogystal â diwygio lles a'r cynllun i ymestyn Credyd Cynhwysol, mae angen i ni sicrhau y gall tenantiaid ganfod a pharhau mewn cyflogaeth drwy wella mynediad i wasanaethau a chyngor digidol."

Mae CIH Cymru yn bartneriaid ar gyfer yr Wythnos Cyflogaeth a Sgiliau. Yn ogystal â bod yn gorff proffesiynol ar gyfer gweithwyr tai proffesiynol yng Nghymru, maent hefyd wedi rheoli pecyn cymorth llwyddiannus Gallu Gwneud i2i, gan sicrhau fod rhaglenni buddsoddi yn cyflwyno buddion cymunedol ehangach, gyda ffocws neilltuol ar recriwtio a hyfforddiant wedi'i dargedu.

Ar hyn o bryd mae'r sector yn cyflogi mwy na 8,000 o bobl mewn swyddi cyfwerth â llawn-amser ac ar gyfer pob un o'r swyddi hynny, caiff dwy swydd arall eu cefnogi o fewn economi Cymru*. Mae gan y sector hefyd enw ardderchog am fuddsoddi mewn datblygiad staff gyda chymdeithasau tai ar gyfartaledd yn gwario £676 ar hyfforddi staff, mwy na dwywaith cyfartaledd y CIPD (Sefydliad Siartredig Datblygu Personol) o £303.**

Dywedodd Keith Edwards, Cyfarwyddwr CIH Cymru:

"Mae'r Wythnos Cyflogaeth a Sgiliau yn gyfle i 'feddwl am yrfa, meddwl am dai'. Dengys ein hadroddiad Dyfodol Rheng Flaen*** yn union pam ei bod yn amser cyffrous i ymuno â'r sector tai. Mae'r rôl rheng-flaen yn newid ac yn esblygu, a gyda hynny daw cyfle i ddysgu a thyfu gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol."

Ychwanegodd Keith: "Fel sector mae gennym record ardderchog ar gyfer cefnogi staff a sicrhau cyflogaeth newydd. Drwy'r pecyn cymorth Gallu Gwneud, cyflwynodd i2i mwy na 5000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant mewn 5 mlynedd a chadarnhau'r syniad y dylai buddsoddiad sicrhau cyflogaeth mewn polisi cenedlaethol."

Cynhelir yr Wythnos Cyflogaeth a Sgiliau rhwng 22-28 Medi.