Jump to content

02 Mawrth 2017

Cyllid ar gyfer modelau tai arloesol...

Picture of a construction site desk


Yn gynnar yn Chwefror cafwyd cyhoeddiad cyffrous gan Carl Sargeant yn ein Cynhadledd Tai Arloesol ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – cronfa i sbarduno datblygu ton newydd o dai anhraddodiadol yng Nghymru.


Yn ddiweddar fe siaradodd Dr David Holmes, Uwch Reolwr Datblygu a Safonau Llywodraeth Cymru ac un o benseiri’r rhaglen, gyda Rhwydwaith Gwasanaethau Technegol CHC a darparu peth cefndir ar amcanion y rhaglen. Felly, dyma beth ydyn ni’n ei wybod hyd yn hyn:
  • Mae swm dechreuol o £20m ar gael, wedi ei gymryd o gronfa wrth gefn Llywodraeth Cymru, gyda’r addewid “os na allwch chi gyflawni, byddaf yn edrych ar gynllun mwy yn y dyfodol.”

  • Bydd proses bidio gystadleuol. Dyw’r manylion ddim wedi eu cadarnhau eto ond deallwn y bydd yr arian yn cael ei rannu, gyda’i hanner ar gael o Ebrill 2017 a’r ail hanner yn Ebrill 2018. Bydd Llywodraeth Cymru’n gofyn yn fuan iawn am fynegiant o ddiddordeb.

  • Bydd mwy o hyblygrwydd ar safonau gofod. Tra bod Llywodraeth Cymru’n weddol fodlon fod safonau gofod yng Nghymru’n gweithio ar y cyfan, bydd y rhaglen newydd yn derbyn dyluniadau nad ydynt o angenrheidrwydd yn cydymffurfio â modelau presennol, gan wahodd dyluniadau sy’n ddigon mawr i fodloni anghenion pobl ar gyfer byw o ddydd i ddydd.

  • Bydd dyluniadau y gellir eu haddasu yn cael eu hannog. Dylai cartrefi fod yn hyblyg i gwrdd ag anghenion cyfnewidiol aelwydydd, a bydd angen i hyblygrwydd ar gyfer newidiadau cymdeithasol neu ddemograffig gael ei ystyried er mwyn sicrhau fod landlordiaid yn gallu ymateb i faterion sy’n codi yn sgil newidiadau, fel y rhai a welsom gyda diwygiadau lles.

  • Ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhagnodi’r dulliau adeiladu i’w defnyddio wrth ddatblygu mathau newydd o dai, ac fe fyddan nhw’n gwahodd syniadau gwahanol. I fod yn llwyddiannus wrth gynnig am arian bydd angen i ddatblygwyr ddangos y bydd y cartrefi’n cael eu codi’n effeithlon ac yn gyflym ac y byddan nhw’n defnyddio dull adeiladu mwyaf effeithlon ar gyfer y safle.

  • Bydd rhaid wrth ddulliau ecogyfeillgar. I fod yn gymwys i gael cyllid bydd angen i gynlluniau fod yn rhad i’w rhedeg er mwyn osgoi tlodi tanwydd, wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio cyn lleied â phosibl o adnoddau naturiol, ac yn gallu ymateb i amodau hinsawdd cyfnewidiol.

  • Bydd yn hanfodol ystyried y lle os yw cynnig i lwyddo. Rhaid cadw amwynder y datblygiadau mewn golwg a bydd angen i ddylunwyr ddarparu amgylchedd lle bydd pobl yn dymuno byw.


Felly, mae digon o bethau’n dal yn anhysbys, ond byddwn yn gwneud yn siŵr fod cymdeithasau tai yn cael llais ar y grŵp llywio a byddwn yn rhoi adborth trwy gydol y broses i gadw’n haelodau yn y pictiwr. Yn y cyfamser, rhowch eich meddwl ar waith!
Hugh Russell
- Swyddog Polisi, CHC