Jump to content

21 Rhagfyr 2016

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am rent tai cymdeithasol

Cyhoeddodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, heddiw y cedwir polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer rhenti tai cymdeithasol ar gyfer 2017/18.

Y cynnydd rhent ar gyfer eiddo landlordiaid cymdeithasol o fewn y polisi ar gyfer 2017/18 yw 2.5% (CPI +1.5%).

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad yma. Bydd cadw'r setliad rhent ar gyfer 2017/18 yn cefnogi cymdeithasau tai i chwarae eu rhan wrth gyflawni'r targed o 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor hwn y Llywodraeth. Mae ffrwd incwm rhent cadarn wrth ochr cefnogaeth ariannol parhaus gan Lywodraeth Cymru yn hollbwysig ar gyfer hyfywedd cymdeithasau tai Cymru yn y dyfodol, ac mae'r sicrwydd hwn yn golygu y gall y sector barhau i adeiladu mwy o gartrefi tuag at y targed o 20,000 a darparu gwasanaethau mewn cymunedau ledled Cymru."

Fe wnaeth Cartrefi Cymunedol Cymru lofnodi Cytundeb Cyflenwi Tai gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fis diwethaf.