Jump to content

02 Mawrth 2020

Cyfweliad gyda . . . Mike Glanville

Cyfweliad gyda . . . Mike Glanville
Mae Mike Glanville yn gyn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Dorset, lle bu’n arwain ar bob agwedd o ddiogelu oedolion a phlant ac ar gydlynu ac ymchwilio troseddu difrifol a sylweddol. Mae’n awr yn un o’r cyfarwyddwyr a sefydlodd One Team Logic, cwmni diogelu a sefydlwyd yn 2015. Mae’n gwybod am yr effaith drychinebus y gall materion diogelu difrifol ei gael ar bobl. Yng Nghynhadledd Llywodraethiant 2020 bydd yn arwain gweithdy i ymchwilio cyfrifoldebau diogelu aelodau bwrdd ac arweinwyr uwch. Darllenwch fwy am y sesiwn yma:


Rhowch un frawddeg yn crynhoi eich sgwrs:


Yn fy sesiwn byddaf yn crynhoi cyfrifoldebau diogelu allweddol ymddiriedolwyr ac yn rhoi sylw i bwysigrwydd hollbwysig llywodraethiant da wrth wneud yn sicr fod diogelu yn effeithlon yn eich sefydliad.


Fe wnaethoch sôn am gyfrifoldebau Llywodraethwyr ac Ymddiriedolwyr, beth mae diogelu mewn tai cymdeithasol yn ei olygu yn eich barn chi?


Mae tenantiaid tai cymdeithasol yn rhai o aelodau mwyaf bregus cymdeithas a gallant fod mewn risg o ystod eang o faterion a allai achosi niwed iddynt. Gwyddom fod nifer sylweddol o blant ac oedolion mewn risg o gamdriniaeth ac esgeulustod ac yn aml iawn mae’r risgiau hynny amlycaf yn y cartref. Mae gan gymdeithasau tai rôl hollbwysig wrth ddynodi pryderon am ddiogelu ar gam cynnar a gweithio’n agos gydag asiantaethau statudol eraill i atal niwed a chadw pobl fregus yn ddiogel.


Mae gan fyrddau ymddiriedolwyr cymdeithasau tai ran hollbwysig wrth lunio diwylliant diogelu y sefydliad, datblygu strategaethau cadarn a dal y sefydliad i gyfrif pan fo angen. Mae ymarfer diogelu effeithlon mewn unrhyw sefydliad yn dechrau gyda llywodraethiant da ac mae’n hanfodol datblygu fframwaith strategol sy’n galluogi ymddiriedolwyr i drin eu cyfrifoldebau diogelu.


Beth ydych chi’n wybod am dai cymdeithasol?


Bûm yn gweithio’n agos iawn gyda chymdeithasau tai ac adrannau tai awdurdodau lleol drwy gydol fy ngyrfa plismona er mwyn rheoli diogelu a mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gen i beth dealltwriaeth o’r heriau sydd wedi wynebu cymdeithasau tai yng nghyswllt materion diogelu a’r anawsterau y gallant eu cael wrth weithio gydag asiantaethau eraill a nifer o ardaloedd awdurdodau lleol. Cefais gyfle i gwrdd gyda nifer o gymdeithiau tai (yn Lloegr a Chymru) ac rwy’n rhesymol wybodus am y systemau a phrosesau sydd ar waith i drin diogelu.


Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’r gwaith?


Yn fy amser rhydd rwy’n dewis mwynhau cefn gwlad bendigedig Dorset gyda fy nheulu a’r rhan fwyaf o benwythnosau rwy’n mynd allan i gerdded bryniau Purbeck a’r arfordir Jurassic. Rwy’n hoff iawn o lyfrau ac wrth fy modd yn ymgolli mewn siopau llyfrau ail law am oriau di-ben-draw! Pan oeddwn yn ieuengach roeddwn yn cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon (yn arbennig rygbi a chriced) ond nawr (gyda phen-gliniau giami!) rwy’n cyfyngu fy hun i edrych ar Rygbi Caerfaddon yn y gaeaf a Chlwb Criced Gwlad yr Haf yn ystod yr haf.


Archebwch eich lle yng Nghynhadledd Llywodraethiant 2020 yma.