Jump to content

24 Chwefror 2020

Cyfweliad gyda . . . Ceri Victory-Rowe a Ian Walters

Cyfweliad gyda . . . Ceri Victory-Rowe a Ian Walters
Bydd Ceri-Victory Rowe o Campbell Tickell ac Ian Walters o Lywodraeth Cymru yn rhoi sesiwn ar y cyd yng Nghynhadledd Llywodraethiant 2020 am eu profiad yn cydweithio i ddatblygu model newydd ar gyfer asesu ansawdd llywodraethiant cymdeithasau tai Cymru. Yma maent yn codi cwr y llen ar y sesiwn:


Rhowch grynodeb o'ch sesiwn mewn un frawddeg.
Byddwn yn bwydo'n ôl i'r sector am y gwaith y buom yn ei wneud gyda'n gilydd i feddwl am sut mae'r rheoleiddiwr yn asesu ansawdd llywodraethiant landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.


Pa un darn o gyngor fyddech chi'n ei roi ar gyfer llywodraethiant da?
Ceri: Mae llywodraethiant da yn ymwneud cymaint am bobl - diwylliant, eu perthynas gyda'i gilydd, sgiliau, agweddau, ymddygiad - ag yw am broses a strwythur. Ond mae'r pethau olaf hyn yn fwy diriaethol ac yn ymwneud llai ag emosiwn, mae angen i ni wneud yn siŵr nad nhw sy'n cael yr holl sylw.


Ian: Rwy'n cytuno, ac mae'n wirioneddol bwysig fod trefniadau llywodraethiant cadarn yn cefnogi diben, gwerthoedd a diwylliant y sefydliad, ac nid y ffordd arall o gwmpas.


Pam ei bod hi mor bwysig fod cymdeithasau tai yn cael
lywodraethiant yn iawn?
Mae ymarfer llywodraethiant yn deillio o set o rolau a chyfrifoldebau sylfaenol cyfreithiol (a moesol). Yn y fantol yn y pen draw mae diogelwch a llesiant tenantiaid (a'r cymunedau maent yn byw ynddynt), defnydd effeithlon cyllid cyhoeddus ac enw da'r holl sector. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael y rhain yn iawn.


Beth fydd cynrychiolwyr yn ei gael o'ch sesiwn?
Byddant yn cael cyfle i fod y cyntaf i glywed ein syniadau diweddaraf am fodel y dyfodol ar gyfer asesu ansawdd llywodraethiant landlordiaid cymdeithasol cofrestredig - a sut mae'r hyn a ddywedodd y sector a rhanddeiliaid eraill wrthym wedi llunio hynny. Byddwn hefyd yn esbonio beth sy'n digwydd nesaf.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gynhadledd Llywodraethiant?
Ceri: Fel bob amser, y cyfle i glywed am y syniadau diweddaraf ar lywodraethiant a chael cyfle i gwrdd eraill sydd mor angerddol am lywodraethiant ag ydw i!


Ian: Cyfle i gwrdd gyda phobl nad wyf yn eu gweld bob dydd a chlywed am bethau fydd yn dylanwadu ar neu'n gwella rheoleiddio yn y dyfodol.


Archebwch eich lle yng Nghynhadledd Llywodraethiant 2020 yma.