Jump to content

25 Mawrth 2015

Cyfrifon tai Cymru yn dangos dawn busnes y sector

Mae sector tai Cymru yn parhau'n sector cryf, diogel a blaengar i fuddsoddi ynddo yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Mae'r Cyfrifon Cynhwysfawr - datganiadau ariannol archwiliedig y sector am y flwyddyn a ddiweddodd 31 Mawrth 2014 - yn dangos tueddiad parhaus o gadernid yn y sector, sy'n cadarnhau ei allu i helpu ymdrin â'r prinder cyflenwad tai ar draws Cymru.

Mae'r cyfrifon hefyd yn dangos sut mae buddsoddiadau'r sector yn gwella cartrefi presennol i denantiaid, gwella bywydau pobl a chymunedau, lliniaru effaith tlodi a diwygio lles, creu cyflogaeth ac yn y pen draw ysgogi economi Cymru.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC): "Mae'r Cyfrifon Cynhwysfawr yn dangos sut y datblygodd y sector i ddod yn gasgliad o fusnesau cyfalaf uchel sy'n defnyddio agwedd mwy masnachol er mwyn cyflawni eu hamcanion cymdeithasol.

"Mae amgylchedd gweithredu ein sector yn newid - mae ein haelodau yn addasu i ddelio gyda materion fel canlyniad i ddiwygio lles, toriadau mewn gwariant cyhoeddus a newidiadau demograffig hirdymor ac mae ganddynt rôl hanfodol wrth ddarparu cymhorthdal cyfalaf tai newydd i ymdrin â'r prinder cyflenwad tai yng Nghymru."

Dywedodd Lesley Griffiths Gweinidog gyda chyfrifoldeb am dai: "Mae'r datganiadau ariannol hyn yn dangos fod sector tai Cymru yn parhau'n gryf yn wyneb amgylchiadau economaidd anodd y blynyddoedd diweddar. Mae hyn yn galonogol iawn ac yn dangos nerth y sector.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda'r sector i sicrhau fod gan bobl fynediad i gartrefi diogel a chadarn ar draws Cymru. Mae rôl cymdeithasau tai yn ymestyn ymhell tu hwnt i fod yn landlordiaid yn unig - maent yn helpu i greu cymunedau cynaliadwy a chyfleoedd cyflogaeth a sgiliau, a hybu economi Cymru."

Mae aelodau CHC wedi parhau i wneud y cyfraniad mwyaf i dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru, gan gyflawni 74 y cant o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2013/14, gyda chwarter y cartrefi yn cael eu cyflwyno heb grant tai cymdeithasol. Mae hyn yn dangos y cynnydd cadarnhaol a wnaed tuag at darged tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru o 10,000 o gartrefi yn ystod y tymor hwn o'r Llywodraeth.

Mae'r sector yn arloesi'n barhaus ac yn defnyddio llwybrau cyllid heb fod yn draddodiadol, marchnadoedd cyfalaf a chyllid bond. Bydd y Grant Cyllid Tai, lle bu cydweithio rhwng 19 aelod, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cynorthwyo gydag adeiladu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy newydd ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £4m o gyllid refeniw blynyddol dros gyfnod o 30 mlynedd i gefnogi'r cynllun yma. Cyhoeddwyd yn ddilynol y bydd estyniad o £250m yn y cynllun Grant Tai Cyllid sy'n dangos ei lwyddiant ymhellach.

Ychwanegodd Mr Ropke: "Yn ystod 2013/14, gwariodd aelodau CHC £1bn yn uniongyrchol yn yr economi a chadwyd 80 y cant o'r gwariant hwn yng Nghymru. Mae'r effaith cyflenwr anuniongyrchol wrth ochr hyn yn golygu fod y cyfanswm effaith yn gyfwerth â bron £2bn.

"Mae'r sector yn gyflogwr pwysig ac wedi parhau i ddarparu rhagolygon cyflogaeth gyda chynnydd parhaus yn nifer y swyddi uniongyrchol cyfwerth â llawn-amser, bron 10,000 o gymharu gyda 3,300 yn 2008. Am bob un swydd uniongyrchol, caiff 1.5 arall eu cefnogi'n anuniongyrchol yng Nghymru."

Fe wnaeth aelodau CHC hefyd wario mwy na £235m yn y flwyddyn ar adeiladu cartrefi, a ariannwyd gan dros £100m o Grant Tai Cymdeithasol a chynnydd o £135m mewn benthyca. Mae cyfradd log effeithlon gyfartalog benthyca yn y sector yn parhau'n gymharol isel ar 4.5%, sy'n dangos gallu parhaus y sector i ddenu cyllid cost isel.

Hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd ansicr presennol, mae trosiant ariannol wedi parhau i gynyddu i £784m, cynnydd o £48m (6.6%) ar 2013. Cynyddodd costau gweithredu gan 9.1% yn ystod y flwyddyn i ychydig dros £634m, gan ddangos y buddsoddiad arfaethedig parhaus mewn cartrefi a gwasanaethau. Fel canlyniad i hyn, gwelodd y sector ostyngiad o 3% mewn gwarged gweithredu o 2013.

Ychwanegodd Mr Ropke: "Mae costau rheoli'r sector wedi cynyddu yn 2014, ar ôl parhau'n gymharol sefydlog rhwng 2010 a 2013. Fodd bynnag, mae hyn yn debygol fel canlyniad i aelodau'n buddsoddi mwy o adnoddau i gasglu incwm a chyngor ar fudd-daliadau lles i denantiaid i sicrhau fod ôl-ddyledion rhent yn parhau dan reolaeth yn wyneb diwygio lles. Mae'r buddsoddiad hwn wedi parhau'n effeithlon gan fod ôl-ddyledion rhent hyd yma wedi aros fwy neu lai yn eu hunfan ar ychydig ond 4%."

Mae'r datganiadau hyn yn dangos y buddsoddiad parhaus i gynnal a chadw cartrefi, yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru, gyda £67m yn cael eu buddsoddi mewn gosod ffenestri, drysau, systemau gwresogi, ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewnol yn eu cartrefi. Bu'r gwariant hwn yn ffafriol i denantiaid, cymdeithasau ac economi Cymru yn gyffredinol yn nhermau'r gweithgaredd ariannol y mae wedi ei ysgogi.

Roedd gwarged gweithredu net y sector am y flwyddyn yn £74m. Er bod y gwarged gweithredu wedi cynyddu'n gyffredinol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae canran y trosiant a gynrychiolir gan y gwarged gweithredu wedi parhau'n gymharol sefydlog ar 20%, gan ddangos fod incwm ychwanegol i'r sector yn parhau i gael ei ail-fuddsoddi mewn mwy o gartrefi a gwasanaethau.

Mae cyfanswm cyfalaf a chronfeydd cadw'r cymdeithasau sy'n aelod o CHC wedi cynyddu gan 6.8%, gan olygu bod gan y sector gronfeydd cadw o £807m erbyn hyn. Mae mwy o reidrwydd nag erioed i'r sector i barhau i greu gwargedion flwyddyn-ar-flwyddyn yn y cyfnod hwn pan fo mwy o bwysau nag erioed ar y cyflenwad tai. Ni chaiff gwargedion cyfrifeg eu cadw fel arian, ond maent yn galluogi benthyca pellach i fod yn sylfaen i fwy o fuddsoddiad mewn cartrefi. Er bod y gwarged net o £74m yn ostyngiad o 2013, mae'n dangos yn glir uchelgais a gallu cymdeithasau i ddarparu twf wedi'i gynllunio.

Mae'r datganiadau yn dangos sector cydnerth a chynyddol sy'n parhau i fod yn ddeniadol i fenthycwyr a sefydliadau ariannol oherwydd y rheoleiddiad cryf sydd a'r ffrydiau incwm y medrir eu rhagweld i raddau helaeth.

Wrth gau, dywedodd Mr Ropke: "Yn y flwyddyn ddiwethaf mae ein haelodau eisoes wedi dangos y gallant ragweld newidiadau, yn arbennig yng nghyswllt diwygio lles, ac maent wedi perfformio'n rhagweithiol i leihau risgiau o unrhyw effeithiau negyddol ar weithrediadau. Bydd ein haelodau yn parhau i roi'r holl fesurau rheoli angenrheidiol ar waith i drin a lleihau unrhyw fygythiadau cysylltiedig ar gyfer y dyfodol oherwydd eu bod yn sefydliadau arloesol a blaengar a all addasu i newidiadau yn yr amgylchedd gweithredu."

Gallwch lawrlwythio'r ddogfen fan hyn.