Jump to content

02 Rhagfyr 2016

Cyfraniad Socio-Economaidd Cymdeithasau Tai Cymru

Cyfraniad Socio-Economaidd Cymdeithasau Tai Cymru

Gwneud gwahaniaeth i fywydau a chymunedau

Mae ffigurau newydd yn datgelu rôl bwysig cymdeithasau tai Cymru yn economi Cymru.

Mae'r ystadegau, a baratowyd gan Beaufort Research a Houston Economic Consulting ar gyfer Cartrefi Cymunedol Cymru, yn dangos y gwahaniaeth a wnaiff cymdeithasau tai ar draws Cymru drwy fuddsoddi mewn tai a chymunedau.

Dengys y ffigurau ar gyfer 2015/16:

  • Bod bron 90c o bob £1 a werir gan gymdeithasau tai yn aros yng Nghymru.
  • Am bob un person a gyflogir gan gymdeithas tai - caiff un a hanner o swyddi eraill eu cefnogi mewn man arall yn economi Cymru.
  • Bod cymdeithasau tai wedi adeiladu/caffael 2,322 o gartrefi yn ystod y 12 mis - bron chwarter ohonynt heb Grant Tai Cymdeithasol.

Dywedodd Hayley Macnamara, Rheolydd Polisi a Rhaglenni CHC: "Mae cymdeithasau tai bob amser wedi bod am lawer mwy na brics a morter. Mae ganddyn nhw ran allweddol wrth gefnogi economi Cymru a'i hannog i dyfu a datblygu.

"Mae eu buddsoddiad mewn cartrefi a chymunedau, ynghyd â'r swyddi a'r cyfleoedd hyfforddiant y maent yn eu creu, yn sicrhau manteision i denantiaid a'r bobl sy'n byw yn eu cymdogaethau."

Gweler inffograffeg o'r canlyniadau yma:

Medrir darllen yr adroddiad llawn yma