Jump to content

09 Chwefror 2022

Cyflogi prentisiaid i adeiladu a chynnal a chadw cartrefi addas i’r dyfodol

Cyflogi prentisiaid i adeiladu a chynnal a chadw cartrefi addas i’r dyfodol

Mae mwy o angen cartrefi diogel, fforddiadwy a sero-net. Gall fod angen i’r rhai sy’n gweithio yn y sector tai ddysgu sgiliau newydd er mwyn eu hadeiladu a’u cynnal i safon uchel ledled Cymru fel y gallant ateb y galw. Mae cynlluniau prentisiaeth yn un o’r ffyrdd allweddol o sicrhau hyn.

Caiff prentisiaethau eu cydnabod yn gynyddol fel cyfleoedd sy’n hanfodol ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol, Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ei bod yn buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gyflenwi 125,000 o brentisiaethau pob oed, yn ogystal â neilltuo cyllid sylweddol i ddatgarboneiddio cartrefi.

Rhwystrau

Gall y buddsoddiad a gyhoeddwyd uchod liniaru rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector wrth gyflenwi cartrefi diogel a fforddiadwy. Yn nadansoddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021, dywed TUC Cymru y byddai angen creu cynifer â 60,000 o swyddi ‘gwyrdd’ erbyn diwedd y flwyddyn hon yn unig, pe bai’r wlad i fod ar y trywydd cywir i gyflawni targedau allweddol sero-net. Ond heb gefnogaeth ddigonol gan y llywodraeth, gallai’r sector tai ei chael yn anodd ateb y galw a’r maint, heb ddigon o bobl gyda’r sgiliau sydd eu hangen i adeiladu ar gyfer y dyfodol.

Er hyn, mae gan ein haelodau rôl sylweddol wrth gyflenwi prentisiaethau sy’n unol â’r nodau a gaiff eu rhannu gan sefydliadau tai ym mhob rhan o’r wlad: drwy weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol, bydd llai o bobl mewn tlodi tanwydd, byddai’r GIG dan lai o bwysau, a byddai’n gostwng effeithiau trychinebus newid hinsawdd.

Sgiliau bywyd

Ymunodd Tom (llun uchod) â Tai Tarian yn 2016 ar brentisiaeth aml-sgil ddwy flynedd, gan weithio ar adnewyddu sylweddol o gynllun Tŷ Gnoll Newydd Haven, yn troi hen bedsits yn fflatiau modern, cysurus ar gyfer preswylwyr hŷn. Roedd yn gweithio wrth ochr pedwar prentis arall, yn dysgu amrywiaeth o grefftau tebyg i blymio, gwaith coed, plastro a gosod brics.

Parhaodd i ddysgu ei grefftau dros y blynyddoedd, gan weithio mewn adeiladau eraill dan lygad gofalus arolygwyr profiadol. Wedyn ar ôl dwy flynedd o waith caled, daeth Tom yn weithiwr aml-sgil gyda chymwysterau llawn, ac wedyn parhaodd ei yrfa gyda Tai Tarian yn adnewyddu adeiladau gwag, gan eu paratoi’n barod ar gyfer preswylwyr newydd.

Ar ôl pedair blynedd yn y swydd honno, penderfynodd Tom ei fod angen her newydd ac yn hwyr y llynedd daeth yn arolygydd dan hyfforddiant. Bydd y swydd newydd yn golygu y bydd angen iddo fynd i’r afael gyda ‘chrefft’ hollol newydd yn sut i oruchwylio gwaith a rheoli staff.

Dywedodd Tom:

“Fe wnes fwynhau fy mhrentisiaeth gyda Tai Tarian yn fawr iawn. Dysgais gymaint am waith coed, plymio, plastro a gosod brics. Yr un mor bwysig, rwyf hefyd wedi dysgu llawer o sgiliau bywyd a sgiliau cymdeithasol hefyd.

“Roedd yn bendant yn gefndir da a rhoddodd sylfaen gadarn i fynd ymlaen a datblygu fy ngyrfa ac rwy’n gwneud hynny’n awr drwy hyfforddi i ddod yn arolygydd.

“Byddwn yn argymell prentisiaeth i unrhyw un sy’n edrych am ffordd i waith, p’un ai yn y diwydiant adeiladu neu mewn unrhyw faes arall. Byddwch yn ennill sgiliau y byddwch yn eu cofio am oes, cwrdd â chael pobl a chael tâl pan fyddwch yn dysgu, sy’n fonws ychwanegol.”

7-13 Chwefror 2022 yw Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.