Jump to content

25 Tachwedd 2016

Cyfle olaf i archebu eich lle yng Nghynhadledd Flynyddol 2016

Cyfle olaf i archebu eich lle yng Nghynhadledd Flynyddol 2016 "Creu'r Naratif" #YBennodNesaf

Dewch i glywed beth yw cynlluniau Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru. Dysgwch fwy am sut y bydd cymdeithasau tai yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i gyflenwi 20,000 cartref newydd erbyn 2021.

Byddwch yno pan fydd y Gweinidog yn lansio'r Cytuniad Cyflenwi Tai rhwng Llywodraeth Cymru, CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn "Creu'r Naratif" ar 1/2 Rhagfyr yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Disgwylir i Carl Sargeant hefyd ddweud mwy am benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff cyhoeddus. Beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer rheoleiddiad y sector?

Siaradwyr eraill yn cynnwys Helen White, Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a Laura McAllister, CBE, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Darrell Smith o'r Adran Gwaith a Phensiynau'n siarad ddyddiau'n unig ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd yn gosod cap ar gyfradd Lwfans Tai Lleol (LHA) ar fudd-dal tai a bydd Tim Montgomerie, Gohebydd Gwleidyddol a Cholofnydd The Times, yn rhoi ei safbwynt ôl-Brexit o'r sefyllfa wleidyddol.

Ac yn edrych i'r dyfodol - sut olwg fydd ar y sector yn 2036 yn eich barn chi? Gorwelion Tai yw'ch cyfle i ddweud eich barn.

Chris Coleman, rheolwr pêl-droed Cymru, fydd y siaradwr cyn-cinio. Gobeithiwn gael y diweddaraf am Gareth Bale yn dilyn ei anaf.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi enw enillydd Creu Creadigrwydd - Gwobr Pat Chown 2016. Y pedwar yn y rownd derfynol yw Cymdeithas Tai Siarter, Cymdeithas Tai Newydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac United Welsh. Cliciwch yma i ganfod mwy am eu cynigion neu i weld fideo am eu prosiectau.

Bydd pymtheg prentis tai mewn timau o bump yn cymryd rhan yn ail Her Prentisiaid Cymru. Pwy fydd yn ennill? Chi sydd i benderfynu ar Ddiwrnod 2 y gynhadledd.

I archebu eich lle ac i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen cliciwch yma

Creu'r Naratif #YBennodNesaf #prentisiaidcymru16