Jump to content

20 Ionawr 2020

Cwrdd a'r Tim: Sarah Scotcher

Cwrdd a'r Tim: Sarah Scotcher
Beth yw eich enw?
Sarah Scotcher


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n Swyddog Prosiect Polisi a Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru. Rwyf yng ngofal amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil a pholisi, yn cynnwys rhai sy'n canolbwyntio ar bolisi ar waith, a hefyd yn cefnogi gweddill y tîm Polisi a Materion Allanol gyda'u gwaith.


Mae fy ngwaith presennol yn cynnwys rhedeg ein Cynllun Prif Awdurdod Tân (y cynllun cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig sy'n cefnogi mwy o gysondeb ar draws Cymru), a gweithio gyda Cymorth Cymru i redeg rhwydwaith ar gyfer aelodau sy'n darparu tai â chymorth. Rwyf hefyd yn y broses o sefydlu rhwydwaith ar gyfer swyddogion data ac ymchwil mewn cymdeithasau tai a chynnal ymchwil am effaith Credyd Cynhwysol.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Roeddwn eisiau gweithio yn y sector dim-er-elw ac yn ddigon ffodus i weld hysbyseb am gontract byr, cyfnod sefydlog yn CHC ddwy flynedd yn ôl. Gallwch ddarllen mwy yma.


Beth yw'r peth pwysicaf i chi ei ddysgu ers dechrau eich gyrfa yn y sector tai?
Cysylltiad mor agos sydd rhwng tai â meysydd eraill o fywyd, yn cynnwys iechyd, cyflogaeth, llesiant a chydraddoldeb. Gall tai gweddus roi sail go iawn i rywun gael ansawdd bywyd da, a chaiff unrhyw beth anodd y mae person yn ei wynebu ei waethygu drwy beidio bod â chartref diogel, sefydlog a fforddiadwy.


Ble fyddech chi'n gweithio, os na fyddech yn y sector tai?
Rwy'n falch i fod yn ffeminydd ac yn mynd yn fywiog *iawn* am ddiffyg cydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn arbennig pan gaiff rhagfarn ar sail rhyw ei waethygu ymhellach fyth gan fathau eraill o wahaniaethu. Rwyf wedi ymuno'n ddiweddar â Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Teg, ac wrth fy modd gyda hynny. Pe na byddwn yn gweithio yn y sector tai, rwy'n tybio y byddwn eisiau bod mewn polisi/materion allanol mewn maes o anghydraddoldeb cymdeithasol neu anghyfiawnder. Rwy'n gwybod pa mor lwcus yr ydw i gael bywyd da a chysurus ac yn methu deall sut fod gan rhai bobl gymaint tra bod gan eraill mor, mor ychydig.


Beth yw eich hoff rhan o'r swydd?
Mae gweld cynnyrch terfynol darn o waith, p'un ai'n bapur, adroddiad neu ddigwyddiad yn rhoi cymaint o foddhad. Rwy'n mwynhau camau cyntaf y prosiect, trefnu pethau a mynd at i wneud yr ymchwil ac ymgysylltu, ac mae gweld popeth yn dod at ei gilydd o'r adeg hwnnw yn wych.


Beth sy'n eich cymell?
Mae dysgu a datblygu yn sbardunau mawr i mi - yn raddol dod yn fwy profiadol, medrus a chrwn yn fy ngwaith. Mae gwneud y gwaith yn dda yn bwysig i fi, gan fy mod yn gwybod fod yr hyn a wnaf yn cyfrannu at y darlun mwy. Yn achos CHC, mae ein gwaith yn cefnogi cymdeithasau tai i wneud yr hyn a wnânt orau, sy'n golygu y gall mwy o bobl yng Nghymru gael lle diogel, cysurus a fforddiadwy i'w alw'n adre.


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Rwy'n hoffi coginio a phobi (gyda gwahanol raddau o lwyddiant) ac fel arfer mae gen i lwyth o lyfrau i'w darllen (rwy'n hoff iawn o thrilers seicolegol). Rwy'n gwybod am bwysigrwydd cadw iechyd meddwl a llesiant da, felly rwy'n ceisio myfyrio ychydig weithiau yr wythnos ac wrth fy modd yn mynd am dro hir. Serch hynny, un o'r ffyrdd gorau i ymlacio ar ôl diwrnod hir yw gorwedd ar y soffa gyda fy nwy gath fach, Skippy a Lassie (ie, y cymeriadau teledu hoff).


Beth ydych chi'n fwyaf balch o'i gyflawni?
Mewn bywyd blaenorol fe wnes gyd-sefydlu a rhedeg busnes bach am bum mlynedd. Mae fy mhartner busnes wedi parhau i redeg y cwmni ers i mi symud i'r trydydd sector, ac rwy'n wirioneddol falch o'r hyn y gwnaethom ei gyflawni gyda'n gilydd a'r hyn mae hi wedi gyflawni ers hynny.


Beth achosodd fwyaf o embaras i chi?
Tua blwyddyn yn ôl doeddwn i ddim yn edrych ble roeddwn yn mynd wrth adael yr orsaf reilffordd ac fe faglais oddi ar y palmant ac yn fflat ar fy wyneb. Roeddwn yn ceisio osgoi edrych ar fy nghyd-deithwyr am ychydig ddyddiau ar ôl hynny!


Ble aethoch chi am eich gwyliau diwethaf a beth oedd eich barn amdano?
Mae aeth fy mhartner a finnau i Lisbon yn Portiwgal yn ddiweddar. Fe wnaethom ei fwynhau'n fawr iawn, ond efallai heb ystyried yn iawn pa mor serth oedd y bryniau - llwyth a llwyth o risiau i'w dringo! Roedd y bwyd yn wych (fe wneathom fwyta *cymaint* o pastéis de nata), ac roedd llawer o leoedd diddorol i ymweld â nhw - byddem yn ei argymell!