Jump to content

10 Chwefror 2020

Cwrdd a'r Tim: Bori Martos

Cwrdd a'r Tim: Bori Martos
Beth yw eich enw?
Borbala (Bori) Martos


Ble ydych chi'n gweithio a beth ydych chi'n wneud?
Rwy'n Swyddog Cymorth Gweithredol yn CHC. Fi yw Cymhorthydd Personol Stuart a Clarissa, rwy'n trefnu eu dyddiaduron a cheisio gwneud yn siŵr eu bod yn y lle cywir ar yr amser cywir. Rwyf hefyd yn rhoi cefnogaeth weinyddol i'n Uwch Grŵp Rheoli a'r Bwrdd.


Pam wnaethoch chi ddewis gyrfa yn y sector tai?
Wnes i ddim dewis gyrfa yn benodol yn y sector tai. Roeddwn eisiau gweithio yn y sector di-elw a gwelais fod swydd yn wag yn CHC pan oeddwn ar fin symud i Gaerdydd bedair blynedd a hanner yn ôl ...


Beth yw'r peth pwysicaf ydych chi wedi ddysgu ers i chi ddechrau ar eich gyrfa yn y sector tai?
Sector pa mor wych yw e a'r holl waith maen nhw'n ei wneud i gefnogi pobl mewn angen.


Ble fyddech chi'n gweithio, os nad yn y sector tai?
Rwyf wedi gwirfoddoli llawer, ac yn dal i wneud hynny, gyda phlant a phobl ifanc a hoffwn feddwl y byddwn i'n gwneud rhywbeth tebyg yn llawn-amser pe na fyddwn i'n gweithio yma.


Beth yw eich hoff ran o'r swydd?
Y bobl rwy'n gweithio gyda nhw.


Sut ydych chi'n ymlacio ar ôl gwaith?
Mae gen i blentyn dwyflwydd oed ... rwy'n dod i'r gwaith i ymlacio!


Beth yw eich camp fwyaf?
Gwirfoddoli gyda phlant a gwneud gwahaniaeth (hyd yn oed os dim ond ychydig iawn) yn eu bywydau.


Beth a achosodd fwyaf o embaras i chi?
Fe lwyddais unwaith i fy nghloi fy hun yn garej gymunol y bloc o fflatiau roeddem yn arfer byw ynddo. Roedd fy ffob yn gwrthod gweithio felly roeddwn yn mynd o amgylch yr holl ddrysau ac yn eu cnocio i geisio mynd allan ... nes i rywun ddod ag agor y drws gyda'u ffob heb unrhyw broblem ...


Ble fuoch chi am eich gwyliau diwethaf a beth oeddech yn ei feddwl amdano?
Rydym yn treulio'r rhan fwyaf o'n gwyliau yn mynd nôl i Hwngari i ymweld â ffrindiau a theulu - mae Budapest yn llw gwych os ydych yn edrych am wyliau byr mewn dinas. Hefyd cefais wyliau 'go iawn' ym Mallorca fis Medi diwethaf a roedd yn wych - traethau bendigedig a bwyd hyfryd.