Jump to content

17 Rhagfyr 2018

Cwrdd â’r Siaradwr – Dawn Bratcher

Cwrdd â’r Siaradwr – Dawn Bratcher
Dawn Bratcher yw Cyfarwyddydd Marchnata Cowshed, ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus a marchnata sy'n seiliedig yng Nghaerdydd. Bydd yn siarad yn ein Cynhadledd Cyfathrebu yn 2019, yn trafod popeth am ymgyrchu.


Beth ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf ato yn y Gynhadledd Cyfathrebu?
Mae bob amser yn wirioneddol ddiddorol canfod beth sy'n digwydd yn y sector. Beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio a beth yw'r peth newydd nesaf. Yn neilltuol pan ddaw i gyfathrebu integredig. Mae gen i bob amser ddiddordeb mewn gweld beth mae cydweithwyr yn ei wneud gyda chyllideb fach iawn a sut maent yn troi syniadau syml yn fomentau mawr.


Beth ydych chi'n meddwl y bydd ymgyrchoedd yn canolbwyntio arnynt yn 2019?
Effaith a gwerthuso. Mae mwy a mwy ohonom yn weld galw am y gallu i fesur llwyddiant mewn ffordd sy'n galluogi ymgyrchoedd i ddatblygu, tyfu ac esblygu. Mae deall cynulleidfa o'r cychwyn cyntaf yn rhan hanfodol o hyn.


Pa ymgyrch ydych chi'n fwyaf balch ohoni?
Bu Cowshed yn ffodus iawn i weithio gyda chleientiaid anhygoel yn 2018. Rydym wedi adeiladu ein sefydliad ar ethos dim ond gweithio gyda chleientiaid a garwn ac achosion y credwn ynddynt. Felly, mae'r bobl y gweithiwn gyda nhw ac ymgyrchoedd y gweithiwn arnynt nid yn unig yn ysbrydoli ond yn gwneud i rywun deimlo'n wylaidd.


Yn ystod y flwyddyn buom yn gweithio gyda'r Brifysgol Agored i ddathlu llwyddiant anhygoel eu graddedigion i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, sy'n annog pobl i feddwl yn wahanol am fabwysiadu ac, wrth gwrs, creu ymgyrch codi arian GiveDIFFerently i'n cleient FOR Cardiff. Mae effaith ein gwaith wedi gweld pobl yn graddio, codi'r ffôn i ddechrau ar eu taith mabwysiadu a chodi arian sydd ei fawr angen i helpu cael pobl oddi ar y strydoedd.


Cawsom flwyddyn anhygoel o dwf a byddwn yn lansio nifer o ymgyrchoedd cyffrous iawn yn 2019.


Beth ydych chi'n hoffi ei wneud tu allan i'r swyddfa?
Rwyf yn treulio'r rhan fwyaf o amser yn jyglo bod yn fam a gweithio'n llawn-amser i Cowshed (gan obeithio mod i'n gwneud gwaith da yn y ddau!). Pam nad ydw i'n gweithio neu'n golchi gwisgoedd ysgol, rwyf yn mynd o gwmpas yn canfod anturiaethau newydd. Mae gen i barch a chariad dwfn iawn at Orllewin Cymru ac yn trysori ein hymweliadau i Sir Benfro ar gyfer llawer o gorff-fyrddio, caiacio a thannau gwersyll.


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Cyfathrebu yma.