Cwrdd â Clarissa Corbisiero-Peters, Cyfarwyddydd Polisi CHC
Clarissa Corbisiero-Peters ydw i ac ymunais â CHC yn haf y llynedd fel Cyfarwyddydd Polisi a Dirprwy Brif Weithredydd.
Yn CHC rwy'n gyfrifol am ein timau polisi, materion cyhoeddus, cyfathrebu a datblygu busnes.
Roedd dod i weithio yn CHC yn nodi dod adref i Gymru i mi. Er fy mod yn dal i addasu i'r gaeaf Cymreig gwlyb, mae'n wych bod yn ôl ac rwy'n ffodus i gael swydd sy'n fy ngalluogi i deithio i bob rhan o'r wlad gan ymweld â phrosiectau tai.
Mae fy nghefndir yn gyfuniad o dai a llywodraeth leol. Gweithiais i Gyngor Dinas Birmingham a Bwrdeisdref Hounslow yn Llundain yn rhedeg prosiectau ar bopeth o gaffaeliad i gelf gyhoeddus a llawer o bethau rhwng y ddau! Treuliais 7 mlynedd yn lobio dros lywodraeth leol yn y Gymdeithas Llywodraeth Leol gan arwain ar dai, cynllunio, yr amgylchedd, llifogydd a materion cyn gwastraff cyn ymuno â'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol fel eu Pennaeth Polisi.
Bu'n ychydig fisoedd prysur ers i mi ddechrau yn CHC. Gyda'n gilydd rydym wedi llofnodi cytundeb tai, sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer adeiladau tai, diwygio'r fframwaith rheoleiddiol, sicrhau dyfodol tai â chymorth dan y Lwfans Tai Lleol drwy gronfa atodol wedi'i datganoli a pharhad y setliad rhent. Mae llawer mwy i'w wneud serch hynny!
Fel llawer ohonoch rwy'n siŵr mae fy rhestr 'pethau i'w gwneud' ar gyfer 2017 yn llawn i'r ymylon eisoes gyda phrosiectau cyffrous. Datblygu gweledigaeth ar gyfer cymdeithasau tai i 2036 drwy ein prosiect Gorwelion Tai, sicrhau setliad ariannol cynaliadwy hirdymor ar gyfer tai â chymorth a thai gwarchod, setliad rhent newydd sy'n diwallu anghenion cymdeithasau tai, datblygu cynnig gan gymdeithasau tai i ymateb i Brexit a chynnal cynadleddau rhyfeddol ymysg y llu prosiectau y byddaf i a fy nhîm yn gweithio arnynt gyda chi.