Jump to content

22 Mehefin 2017

Creu Creadigrwydd 2017




Ddeunaw mlynedd yn ôl sefydlodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) gynllun Gwobr i gydnabod arloesedd er cof am berson arbennig iawn - Pat Chown.


Rhoddodd Pat ran fawr o'i bywyd i helpu pobl mewn llawer o ffyrdd i wella eu bywydau a chyflawni eu potensial.


I gofio Pat, ei chyfraniad i'r sector tai a meysydd eraill ynghyd â'i chwilio parhaus am ffyrdd gwell o wneud pethau, mae CHC yn gwahodd ceisiadau bob blwyddyn ar gyfer y wobr Creu Creadigrwydd.


Nod y Wobr yw cydnabod arloesedd:
  • Ffyrdd newydd o ymateb i faterion dydd i ddydd.

  • Syniadau newydd am wella ac adfywio cymunedau.

  • Gwahanol ffyrdd o helpu pobl i wella a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau.


Mae beirniaid y Wobr yn edrych am geisiadau sy'n dangos fod y prosiect wedi torri tir newydd ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i fywydau pobl.


Mae'r enillydd yn derbyn y wobr a'r gydnabyddiaeth gadarnhaol sy'n mynd gyda hynny. Gallant hefyd enwebu elusen seiliedig yng Nghymru i dderbyn cyfraniad o £1,000.



Y Broses Feirniadu ac Enillwyr 2016


Daw prif bwyslais y beirniaid wrth asesu cynigion o deitl y wobr, "Creu Creadigrwydd". Maent hefyd yn rhoi ystyriaeth i:
  • Sut mae'r prosiect yn helpu pobl.

  • Cael nodau ac amcanion clir.

  • Manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael.

  • Gwaith partneriaeth yn cael ei annog ac yn gweithredu'n effeithlon.

  • Os y medrai sefydliadau eraill atgynhyrchu'r prosiect.

  • "Naws" cyffredinol y prosiect.


Achos Consyrn Tai Siarter enillodd wobr 2016. Gwnaeth wahaniaeth cadarnhaol real a sylweddol i fywydau pobl drwy fynd i'r afael â materion o gonsyrn am ddiogelu gyda newid "syml" mewn dull gweithredu. Cyflawnodd hynny drwy addasu systemau presennol i weithio mwy effeithlon ac yn canolbwyntio mwy ar bobl. Mae hefyd yn gweithio ar draws y busnes, a gyda symudiadau eraill, yn helpu i gynnal tenantiaethau. Cyflawnir hyn i gyd o fewn eu hadnoddau presennol.



Blas o Gynigion eraill


Derbyniwyd cannoedd o gynigion dros y blynyddoedd yn cynnwys:
  • Pobl ddigartref yn cael eu hyfforddi (achredu), yna'n symud ymlaen i ysgolion i esbonio, yn ddiflewyn ar dafod ac yn rymus o brofiadau personol, sut y gall cyffuriau chwalu eich bywyd.

  • Gwasanaeth 'cymhennu' sy'n mynd i'r afael â'r problemau niferus mae llawer o bobl yn eu hwynebu a'u helpu i newid a gwella eu bywydau mewn llawer o ffyrdd cadarnhaol.

  • Bws yn ymweld â threfi a phentrefi yng ngogledd Cymru i roi cyngor cyfrinachol a gyda chydymdeimlad a chyfeirio at faterion iechyd rhywiol


Ni wnaeth pob un o'r rhain ennill y wobr ond fe wnaethant eu marc. Roedd hefyd mwy yn rhoi help gyda chynhwysiant ariannol, cynnwys pobl hŷn yn eu cymunedau ac yn y blaen.



Drosodd i Chi!


Mae'r gweithgareddau hyn yn eang. Dyna yw craidd y wobr ynghyd â gweld bod y gweithgaredd gwerth chweil yn dilyn rhyw fath o ddull gweithredu gwahanol.


Mae llawer o bethau gwych yn digwydd yng Nghymru. Rydym eisiau dathlu'r gweithgareddau hynny.


Ewch ati, anfonwch gynnig am wobr Creu Creadigrwydd eleni.


Caiff ei werthfawrogi, a phwy ŵyr, efallai y byddwch yn ennill! Bydd manylion pellach ar gael yn y dyfodol agos


(A pheidiwch anghofio'r budd ychwanegol y gallwch enwebu elusen am gyfraniad o £1,000).