Jump to content

29 Hydref 2021

Gweld gwaith United Welsh i gyrraedd sero net

Gweld gwaith United Welsh i gyrraedd sero net

Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull ar gyfer COP26 yn Glasgow, mae CHC yn rhoi sylw i sut mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn gwneud eu pwt i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Yn 2021, fe wnaeth United Welsh lansio Celtic Offsite, menter gymdeithasol newydd i adeiladu cartrefi effeithol o ran ynni drwy weithgynhyrchu ymaith o’r safle.

Mae’r fenter yn seiliedig yng Nghaerffili a bydd i ddechrau yn adeiladu hyd at 250 o gartrefi carbon isel bob blwyddyn, gan gynhyrchu strwythurau ffrâm bren cynaliadwy, ansawdd uchel ynghyd ag insiwleiddiad a ffenestri a osodir yn y ffatri. Mae’n rhan o fuddsoddiad £2m o Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Caiff yr holl elw o’r fenter eu hailfuddsoddi yn niben cymdeithasol United Welsh o ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy a gwasanaethau cymunedol, yn cynnwys ein rhaglen ddatgarboneiddio i ddod yn niwtral o ran carbon erbyn 2035.

Bydd y ffatri yn cynnwys ystafell hyfforddiant i ddarparu datblygu sgiliau a phrentisiaethau ar gyfer swyddi adeiladu gwyrdd, gan hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr i ddarparu cartrefi sy’n fwy effeithiol o ran ynni.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Celtic Offsite, ewch i unitedwelsh.com neu linkedin.com/company/celtic-offsite

Celtic Offsite