Gweld gwaith Tai Tarian i gyrraedd sero net
Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull ar gyfer COP26 yn Glasgow, mae CHC yn rhoi sylw i sut mae cymdeithasau tai ar draws Cymru yn gwneud eu pwt i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Yn 2019 ymrwymodd Tai Tarian i ddod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030 ac yn anelu i ‘newid eu hymddygiad heddiw ar gyfer cenedlaethau yfory’.
Mae ei waith yn magu momentwm a’r llynedd cafodd ei gydnabod yn genedlaethol am ei waith ar dai cynaliadwy.
Mae Tai Tarian yn credu fod newid ymddygiad yn un o’r heriau mwyaf sy’n gysylltiedig gyda datgarboneiddio. Wrth drin yr her hon mae wedi creu diwylliant lle mae’r staff wedi eu grymuso i siarad yn agored ac yn onest am newid hinsawdd. Mewn gwirionedd, roedd 50 ohonynt yn cynrychioli’r cwmni yn y digwyddiadau Streic Hinsawdd Byd-eang yng Nghaerdydd ac Abertawe yn 2018.
Yn ei dro mae’r ymwybyddiaeth a’r newid ymddygiad hwn yn ymestyn i denantiaid, gan fod ganddynt rôl hollbwysig wrth gyflawni gweledigaeth Tai Tarian.
Mewn mannau eraill, cafodd pob cartref newydd eu hadeiladu’n ddiweddar i safon EPC A ac mae ganddynt ffocws ar ddull ffabrig yn gyntaf (fel Grŵp Pobl), ynghyd â llawer o dechnolegau newydd sydd ar gael ar hyn o bryd, gan eu gwneud mor effeithiol o ran ynni ag sydd modd.
Ei brosiect datblygu mwyaf uchelgeisiol yw ‘Fflatiau Sir’, sydd newydd ddechrau, ac a fydd yn creu un o’r cymunedau mwyaf cyfeillgar i’r amgylchedd yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cyfuno ôl-osod 72 o gartrefi presennol ac integreiddio 55 o gartrefi adeilad newydd yn defnyddio dulliau modern o adeiladu ac yn defnyddio’r dulliau cyfeillgar i’r amgylchedd diweddaraf, yn cynnwys ffibrau naturiol tebyg i wlân defaid a myseliwm ar gyfer insiwleiddiad.
Gyda dros 9,000 o gartrefi presennol, mae rhaglen ôl-osod Tai Tarian yn enfawr. Ers i’r cwmni gael ei greu yn 2011, mae ei ôl-troed carbon wedi gostwng gan 33% rhagorol, yn bennaf oherwydd buddsoddiad o bron £3m dros y flwyddyn ddiwethaf i osod insiwleiddio waliau allanol, ffenestri gwydr dwbl a phaneli solar lle’n bosibl. Mae’r gweithiau hyn ynghyd â chynlluniau eraill yn gweld y gymdeithas yn arbed tua 470 tunnell fetrig o garbon bob blwyddyn.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tai Tarian wedi plannu mwy na 2,000 o goed ac wedi gorffen dros 90 o brosiectau cymunedol i wella gofodau agored. Mae’n anelu i blannu 200,000 mwy o goed mewn blynyddoedd i ddod, gan ostwng ei ôl-troed carbon ymhellach.
Gan sylweddoli y gellir gwneud mwy, mae Tai Tarian yn parhau i ddysgu mwy bob dydd. Gydag angerdd a dilysrwydd yn ei agwedd at gynaliadwy, mae’n sicr i wneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd heriol i ddod.