Jump to content

09 Tachwedd 2021

Gweld gwaith Hafod i gyrraedd sero net

Gweld gwaith Hafod i gyrraedd sero net

Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull ar gyfer COP26 yn Glasgow, mae CHC yn rhoi sylw i sut mae cymdeithasau tai ar draws Cymru yn gwneud eu pwt i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae strategaeth hinsawdd Hafod yn canoli ar addysgu a grymuso preswylwyr a’u cymunedau lleol. Mae’n cydnabod mai’r her fwyaf a wynebir yw sut i newid ymddygiad. Y ffocws yw sicrhau fod pawb yn gwneud eu pwt i ostwng allyriadau yn ogystal â chefnogi cynlluniau Hafod ar gyfer datgarboneiddio.

Seiliwyd y strategaeth hon ar y ddealltwriaeth gyffredin y bydd yn rhaid i amcangyfrif o ddau-draean y gostyngiadau sydd angen i ni eu gwneud ddod o wahanol ffyrdd o fyw ac ymddygiad, yn hytrach na thechnoleg a ffabrig adeiladu. Felly, er enghraifft, ymddengys fod cysyniadau ymddygiad adnabyddus fel damcaniaeth procio a phensaernïaeth dewis yn gweithio’n dda i rai mathau o ymddygiad (tebyg i roi organau a rheoli ôl-ddyledion), maent yn llai effeithlon pan y’u gweithredir i newid hinsawdd.

Fel canlyniad, mae tîm Ochr-wrth-Ochr Hafod – sy’n canolbwyntio ar ymchwil ac arloesi – yn cydweithio gyda Hubbub ac yn gweithio gyda chymuned Llaneirwg yng Nghaerdydd i ymchwilio a dysgu am y mathau o weithredu cymunedol a allai fod yn effeithlon wrth helpu preswylwyr i ostwng eu defnydd carbon.

Eu nod yw grymuso preswylwyr i sicrhau newid, yn dilyn egwyddorion hunan-drefnu, arweinyddiaeth a modelu rôl. Er bod y gwaith hwn yn ei ddyddiau cynnar iawn, bydd Hafod ac Ochr-wrth-Ochr cyn hir yn medru adnabod yr hyn a weithiodd a pha fesurau newydd, hirdymor y gellid eu gweithredu a fyddai’n rhoi cymhelliant i’r cymunedau eu hunain i fyw bywydau cynaliadwy heb ymyriad a mwy o gefnogaeth.