CHC yn ymateb i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
Cafodd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ei gyhoeddi heddiw.
Dywedodd Aaron Hill, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Polisi a Materion Cyhoeddus:
"Bydd cymdeithasau tai yn croesawu adroddiad heddiw. Mae ei alwad am un system ddiwnïad o iechyd a gofal ledled Cymru yn cydnabod rôl tai da yn y sector.
"Ym mis Tachwedd fe wnaethom gyhoeddi gweledigaeth y sector i sicrhau fod tai da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru erbyn 2036. Mae adeiladu cymunedau iach yn rhan hanfodol o hyn ac mae nifer o gymdeithasau tai yn cynnwys Hafod yn edrych ar gynlluniau arloesol cyffrous i wrthsefyll problemau corfforol a hefyd broblemau iechyd meddwl. I hyn o beth, mae cymdeithasau tai mewn lle cryf i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, darparwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru i adeiladu cymunedau iach gyda'r nod o greu Cymru fwy iach."