CHC yn ymateb i gyhoeddiad Plaid Cymru am anghenion tai
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw fod angen 20,000 o gartrefi pellach i ateb y galw yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Daw'r cyhoeddiad gan Blaid Cymru wrth i ymgynghoriad gael ei lansio ar sut i ddatrys y broblem cyflenwad tai yng Nghymru, gyda Leanne Wood AC yn dweud fod angen 2,500 o gartrefi ychwanegol bob blwyddyn i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy.
Dywedodd Aaron Hill, Rheolydd Materion Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru:
"Croesawn yr uchelgais a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw i ddiwallu anghenion tai yng Nghymru ac i gyflawni targedau am ddyfodol carbon isel. Ffocws cymdeithasau tai yng Nghymru yw'r uchelgais i adeiladu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036 fel rhan o weledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb, a rydym yn sefyll yn barod i weithio gyda phawb sy'n rhannu'r nod honno.
"Mae'r adolygiad o dai fforddiadwy a gynhelir gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd wedi rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'r sector greu amgylchedd polisi i alluogi datblygiadau pellach ac arloesi, ac mae cefnogaeth barhaus a chyson i gymdeithasau tai yn allweddol i sicrhau ein bod yn trechu'r argyfwng tai."