CHC yn ymateb i Araith y Frenhines
Mae Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru, wedi rhoi sylwadau ar Araith y Frenhines a roddwyd yn gynharach heddiw.
Mewn ymateb i £12bn o doriadau pellach i lesiant a gostwng yr uchafswm budd-daliadau ymhellach o £26,000 i £23,000, dywedodd Stuart: "Mae polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar lesiant yn parhau i effeithio ar gymdeithasau tai Cymru a'u tenantiaid. Ni fydd rhoi uchafswm ar faint o fudd-dal tai y mae person yn ei dderbyn yn helpu gostwng y bil llesiant. Y cyfan a wnaiff yw targedu'r rhai sydd leiaf galluog i'w fforddio a'u gwthio ymhellach i dlodi. Bydd teuluoedd yn awr yn wynebu'r dewis llwm o gwtogi ar hanfodion megis bwyd a gwresogi neu orfod symud ymhell o'u cymunedau presennol i ganfod cartref y gallant ei fforddio. Mewn llawer rhan o Gymru, ni fydd teuluoedd yn gallu talu rhenti preifat uchel oherwydd yr uchafswm a bydd mwy o alw nag erioed am dai fforddiadwy, yn arbennig yng Nghaerdydd lle mae mwyafrif y bobl y bydd yr uchafswm budd-daliadau yn effeithio arnynt yn byw.
“Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn yr Hawl i Brynu i gartrefi cymdeithasau tai yn Lloegr yn siomedig iawn. Yn ffodus mae tai yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru, a chaiff unrhyw benderfyniad am yr Hawl i Brynu yma ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi ymgynghori'n ddiweddar ar y cynnig ar ddiddymu'r Hawl i Brynu, ac mae Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol 2009 eisoes yn caniatau i Weinidogion Cymru alluogi cynghorau i wrthod ceisiadau Hawl i Brynu mewn ardaloedd lle mae llawer o alw am dai fforddiadwy.
Ers cyflwyno deddfwriaeth Hawl i Brynu yn 1980, cafodd 138,548 o gartrefi eu gwerthu a'u colli i'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd hyn effaith fawr ar y cyflenwad o dai fforddiadwy ansawdd uchel yng Nghymru, lle mae eisoes argyfwng yn y cyflenwad tai. Amcangyfrifir bod angen 14,200 o gartrefi ychwanegol yng Nghymru rhwng nawr a 2026 os ydym i liniaru'r argyfwng mewn cyflenwad, ac nid gwerthu tai cymdeithasol yw'r ateb. Gellid bod effaith bellach ar gymdeithasau tai pe byddai cyllidwyr yn diwygio eu barn o gadernid ein sector yng ngoleuni datblygiadau yn Lloegr a gallai hyn arwain at gynnydd yng nghost cyllid i'n haelodau."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am Fil Cymru, ychwanegodd Stuart: "Rydym yn croesawu’r newyddion y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn creu Bil Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau setliad cyfansoddiadol cryf a hirhoedlog i Gymru. Fel y genedl dlotaf yn y Deyrnas Unedig, lle mae GDP yn parhau'n is nag unrhyw le arall, byddwn yn parhau i ychwanegu ein llais at yr ymgyrch dros ein cyfran deg o gyllid cyhoeddus."