CHC yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ar gyfer tai fforddiadwy
Mae'r sefydliad sy'n cynrychioli landlordiaid tai cymdeithasol yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid am dai fforddiadwy yn nrafft Gyllideb dydd Mawrth (18 Hydref).
Dywed Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) fod angen mwy o arian os yw Gweinidogion i gyflawni eu targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2021. Sefydlwyd y targed yn dilyn ymgyrch Cartrefi i Gymru yn y cyfnod cyn yr etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol eleni. Galwodd CHC a'i bartneriaid ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i ddod â'r argyfwng tai i ben ac adeiladu Cymru gryfach.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Ymatebodd gweinidogion i'n hymbil i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n dal i waethygu. Mae cymdeithasau tai yn barod i gefnogi Llywodraeth Cymru i adeiladu'r cartrefi rydym eu hangen a byddant yn defnyddio eu harbenigedd ac adnoddau i wneud hyn. Fodd bynnag, ni allant wneud hyn ar eu pen eu hunain ac mae'n hollbwysig fod y gwaith yn cael ei gyllido'n gywir."
Mae gan gymdeithasau tai Cymru eisoes hanes o lwyddiant wrth gyflawni prosiectau tai a buont yn gweithio'n agos gyda'r weinyddiaeth flaenorol a addawodd 10,000 o gartrefi newydd yn y pum mlynedd hyd at 2016.
Ychwanegodd Stuart Ropke: "Ers y 1980au cafodd bron y cyfan o'r holl dai cymdeithasol newydd eu darparu gan gymdeithasau tai sy'n defnyddio grantiau tai wrth ochr eu hadnoddau eu hunain a chyllid preifat i adeiladu cartrefi. Mae hyn yn cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwyr a bydd cymdeithasau tai yn parhau i fod â rhan bwysig iawn yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru.
"Dyma gyfle i Gymru arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig eto a dangos fod ganddi ymrwymiad gwirioneddol i helpu'r miloedd lawer o bobl sydd ar restri aros am dai yng Nghymru ar hyn o bryd."