CHC yn galw am adolygu polisi tai fforddiadwy i alluogi darparu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, wedi galw am adolygu polisi tai yng Nghymru i alluogi'r sector tai i gyflawni ei botensial llawn i wella bywydau pobl a'r lleoedd y maent yn byw ynddynt. Daw'r galwad wrth i CHC gyhoeddi ei gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, sy'n cynnwys ymrwymiad i ddyblu cyfradd darpariaeth y sector drwy adeiladu 75,000 o gartrefi newydd a chreu 150,000 o swyddi erbyn 20136.
Mae'r weledigaeth ugain mlynedd, a ddatgelwyd yng Nghynhadledd Flynyddol CHC, yn ymrwymo gwneud cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru erbyn 2036 drwy sefydlu cartrefi fel y man dechrau ar gyfer bywydau llwyddiannus a lleoedd llwyddiannus.
Ddeng mlynedd yn ôl, gosododd Adolygiad Essex o Dai Fforddiadwy yng Nghymru y sylfaen i alluogi cymdeithasau tai Cymru i gyflawni mwy. Heddiw, mae tai wedi sefydlu'n gadarn fel blaenoriaeth yn strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae CHC eisiau gweld hyd yn oed fwy o uchelgais, gwell gweithio partneriaeth a chydnabyddiaeth mai tai fforddiadwy yw'r allwedd i ffyniant fel y gall cymdeithasau tai wneud hyd yn oed fwy i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru ac ychwanegu gwerth i gymunedau ledled Cymru.
Mae gweledigaeth 'Gorwelion Tai' CHC yn amlinellu cynllun i gynyddu a chyflymu'r gwaith a wnaiff cymdeithasau tai eisoes i wneud cymunedau Cymru yn fwy iach, llewyrchus a chysylltiedig. Mae ymrwymiadau eraill ar gyfer 2036 yn cynnwys:
- Gwario 95c o bob punt yng Nghymru
- Ymchwilio sefydlu hyb arloesedd tai i annog datblygu cartrefi hyblyg i ateb y newid yn anghenion pobl
- Sicrhau y bydd pob cymdeithas tai yn cyrraedd y safon bron ddim carbon.
Daw'r galwad am adolygiad polisi tai, ynghyd â lansiad gweledigaeth hirdymor y sector, wrth i ffigurau newydd ddatgelu effaith economaidd hanfodol cymdeithasau tai Cymru. Dengys data a gyhoeddir heddiw yn adroddiad Effaith Economaidd-Gymdeithasol diweddaraf CHC, yn 2016/17:
- Bod cymdeithasau tai wedi adeiladu 2,207 o gartrefi, cynnydd o 17% ar ffigur y llynedd
- Adeiladwyd 34% o'r cartrefi hyn heb Grant Tai Cymdeithasol.
- Gwariodd y sector dros £1bn yn uniongyrchol, gyda 84% o hynny'n mynd i economi Cymru.
- Am bob un person a gyflogir gan gymdeithas tai, caiff un a hanner o swyddi eraill eu cefnogi mewn man arall yn economi Cymru.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn 2036 yw un lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Tai yw conglfaen cymuned sefydlog - mae'n effeithio ar ein hiechyd, y cysylltiadau a wnawn o fewn cymunedau ac, yn sylfaenol, ffyniant ein lleoedd.
O ddyblu cyfradd darparu cartrefi fforddiadwy i sicrhau y caiff y gwasanaethau cywir eu hadeiladu o amgylch y cartrefi hyn, mae'n hollbwysig ein bod yn sefydlu'r amgylchedd polisi mwyaf effeithlon i greu sylfaen gadarn ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam ein bod angen adolygu polisi tai yng Nghymru.
Mae ein hadroddiad effaith economaidd-gymdeithasol diweddaraf yn dangos fod gennym hanes cryf o lwyddiant mewn adeiladu, buddsoddi ac ail-fuddsoddi. Mae gennym uchelgeisiau mawr ac rydym yn dechrau ar gam nesaf y daith i adeiladu Cymru gryfach a fwy llewyrchus, ond ni allwn wneud hynny ar ben ein hunain. Heddiw, rydym yn gosod her i gymdeithasau tai a'n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gydweithio i sicrhau fod cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru erbyn 2036."
Gweler y weledigaeth yma.