CHC yn cyfri’r dyddiau at COP: Sut mae’r agenda datgarboneiddio tai cymdeithasol yn effeithio ar anghydraddoldeb iechyd?
Wrth i ni gyfri’r dyddiau at COP26 mae Sarah Scotcher, ein Rheolwr Polisi a Materion Allanol, yn esbonio sut mae buddsoddi mewn cartrefi ansawdd da o fudd i lesiant corfforol a meddwl preswylwyr, a’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd.
Does unman yn debyg i gartref, iawn? Y man hwnnw lle teimlwn yn ddiogel, cynnes, gyda bwyd i’w fwyta a gwely clyd i gysgu ynddo. Gwyddom pan fod y pethau hyn gennym – pan mae gennym gartref da – y teimlwn yn well o’r herwydd a rydym yn teimlo’n iach. Gallai hynny ymddangos fel pethau syml ond gall gael effaith negyddol ar ein hiechyd pan nad yw’r pethau hynny yno.
Ac nid yw hyn yn ddim byd newydd, wrth gwrs. Dywedir yn aml i Aneurin Bevan, ‘tad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol’, adnabod y cyswllt hwn fel Gweinidog Iechyd a Thai – roedd y cliw yn y teitl. Mae cartref diogel, saff a chysurus yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer ein bywydau, gan ein galluogi i fyw, gweithio a ffynnu.
Gall cartrefi gwael gael effaith ddifrifol ar ein hiechyd corfforol a meddwl ac effeithio ar ein llesiant a ffyniant yn y dyfodol. Cafodd digon o ystadegau eu casglu a digon o adroddiadau eu cyhoeddi i ddweud wrthym fod gan Gymru lefelau uwch o bobl sydd yn hŷn, mewn gwaeth iechyd ac yn dlotach na gweddill Prydain. Ac er na all cartrefi effeithiol o ran ynni eich gwneud yn iau, mae ganddynt y potensial i adael mwy o arian yn eich poced, gostwng nifer y cyflyrau iechyd cysylltiedig ag oerfel a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Mae buddsoddi mewn cartrefi ansawdd da yn arbed arian i’r cyhoedd ac yn gwella canlyniadau ar gyfer pobl, ac yn cynnig dewis gwirioneddol ar gyfer preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Gwyddom fod tai gwael yn costio £95m y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru ac y gallai pob £1 a gaiff eu gwario ar wella cartrefi mewn aelwydydd bregus arwain at adenilliad o £4 ar fuddsoddiad.
Ni ddaw’r dystiolaeth i ben yno. Yn ôl ymchwil iechyd cyhoeddus, canfuwyd fod gan bobl 60 oed a throsodd yng Nghymru sydd â budd tai cyngor wedi eu diweddaru 39% yn llai o dderbyniadau ysbyty ar gyfer cyflyrau cardioresbiradol ac anafiadau na’r rhai sy’n byw mewn cartrefi heb eu huwchraddio.
Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor ar effeithiolrwydd ynni a gwelliannau i aelwydydd bregus. Dengys gwerthusiad o’r cynllun hwn i nifer yr ymweliadau i feddygon teulu am gyflyrau resbiradol ostwng gan 3.9% mewn buddiolwyr, o gymharu gyda chynnydd o 9.8% ar gyfer y grŵp rheoli.
Mae tlodi tanwydd wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar ond mae’r heriau a gyflwynir gan gynnydd mewn prisiau nwy yn golygu fod yn rhaid i ni aros yn wyliadwrus a pharhau i flaenoriaethu gweithredu. Risg bellach yw, os na chaiff ein cartrefi eu gwneud yn fwy effeithiol ac y gostyngir y galw am ynni, y bydd y symud o nwy i drydan yn rhy ddrud ar gyfer y cyfan heblaw’r aelwydydd mwyaf cyfoethog.
Fel angorau cymunedol yn ogystal â landlordiaid, mae gan gymdeithasau tai rôl allweddol í’w chwarae mewn datgarboneiddio cartrefi a llesiant eu cymunedau. Mae cymdeithasau tai yn gwella eu cartrefi yn barhaus, p’un ai gyda phrosiectau ôl-osod uchelgeisiol, datblygiadau newydd ac arloesol neu gynnal safonau o ddydd i ddydd.
Maent hefyd yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i breswylwyr ac eraill yn eu cymunedau, gan helpu pobl gyda threfnu eu harian, canfod contract ynni addas a hawlio budd-daliadau lles. Mae’r holl fuddsoddiad hwn, p’un ai mewn cartrefi neu mewn pobl, yn anelu i drin y myrdd anghydraddoldebau iechyd sy’n ganlyniad tai gwael.
Caiff ein hiechyd a’n llesiant ei siapio gan bob rhan o’n bywydau. Am lawer rhy hir, rydym wedi edrych ar y gwasanaeth iechyd i drin yr heriau hyn ar ben eu hunain, ond nid oes gan y GIG ddigon o’r ysgogiadau ar gael i wneud y newidiadau y gwyddom sy’n hanfodol i greu’r amodau angenrheidiol ar gyfer iechyd da. Mae cynnydd ystyrlon angen ymdrechion cydlynus ar draws pob sector i gau’r bwlch. Dyna pam fod CHC, ynghyd â llawer o gyrff eraill yng Nghymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth traws-lywodraeth i drin anghydraddoldebau iechyd, sy’n cydnabod cyfraniad tai i iechyd. Mae’n rhaid i’r strategaeth roi blaenoriaeth i weithredu i ddarparu cartrefi ansawdd da sy’n hybu deilliannau iechyd da ym mhob cyfnod bywyd, ac wrth i anghenion pobl newid.