Jump to content

17 Gorffennaf 2013

CHC yn croesawu'r ymchwiliad ar addasiadau yn y cartref

Mae grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru heddiw'n croesawu'r argymhellion i'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar addasiadau yn y cartref. Gobeithiwn y bydd yr argymhellion hyn yn helpu i wella'r system addasiadau ymhellach a bod yn fwy effeithlon ar gyfer y rhai sydd angen addasiadau i fyw'n fwy annibynnol yn eu cartrefi.

Dywedodd Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi: "Croesawn yr argymhellion i safoni addasiadau i bob deiliadaeth a'r posibilrwydd o gyflwyno un pwynt mynediad at y system o fewn pob ardal awdurdod lleol. Fe wnaethom bwysleisio'r angen am hyn yn ein tystiolaeth ysgrifenedig a sôn am yr anawsterau sy'n wynebu pobl sydd angen defnyddio'r system yn cynnwys peidio gwybod at bwy i fynd atynt i gael help. Credwn fod gan hyn y potensial i symleiddio'r broses ar gyfer tenantiaid a pherchnogion cartrefi ond oherwydd bod ein haelodau'n aml yn gallu cyflawni addasiadau'n gyflym iawn - mae'n hollbwysig fod unrhyw safoni'n gwella darpariaeth gwasanaethau ac nad yw'n effeithio ar y gwasanaethau yr ydym eisoes yn eu darparu."

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell fod y Rhaglen Addasiadau Brys ar gael i bobl o bob oed ac i gartrefi o bob deiliadaeth, yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol. Ar hyn o bryd dim ond pobl hŷn sy'n berchen eu cartrefi a all fanteisio o'r Rhaglen Addasiadau Brys a chred Grŵp CHC fod y gwerth a geir drwy'r Rhaglen yn hysbys iawn ac y byddai unrhyw estyniad ohoni yn fanteisiol ar gyfer unigolion a hefyd ar gyfer darparwyr gwasanaethau eraill yn y sector cyhoeddus (e.e. cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol). Yn ychwanegol at hyn mae'r canfyddiadau'n nodi y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gyllido'r rhaglen Grant Byw'n Annibynnol, a fyddai'n golygu y gallai miloedd yn fwy o bobl barhau i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

A ninnau hanner ffordd drwy'r wythnos Iechyd a Thai, croesawn yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw cyfraniadau o gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol i addasu tai yn briodol i wella canlyniadau i gleifion. Nod yr wythnos Iechyd a Thai yw rhoi sylw i rôl ataliol tai, gan arbed miloedd o bunnau i gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol yn yr hirdymor ac rydym yn falch y gall y pwyllgor hefyd weld gwerth buddsoddi yn yr agenda ataliol.

Yn olaf, croesawn yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu effaith diwygio lles ar dai cymdeithasol. Wrth wneud hynny, dylai Llywodraeth Cymru atgoffa awdurdodau lleol i wneud defnydd priodol o daliadau tai yn ôl disgresiwn i helpu tenantiaid sy'n byw mewn tai wedi'u haddasu. Fe wnaethom dynnu sylw at hyn yn ein tystiolaeth ysgrifenedig a dweud fod llawer o bobl oedd yn tanddefnyddio eu cartref wedi cael grant addasu ffisegol 'PAG' yn flaenorol neu eu bod yn byw mewn adeilad a godwyd yn bwrpasol ar eu cyfer.

Gweler yr adroddiad yma.