Jump to content

17 Gorffennaf 2013

Y Gweinidog yn cyhoeddi mesurau tai

Newyddion Llywodraeth Cymru:

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Carl Sargeant, gam cyntaf pecyn o fesurau heddiw i gefnogi'r diwydiant tai a gwireddu ei adduned i wella ansawdd tai yng Nghymru a'u gwneud yn fwy diogel.

Mae'r mesurau'n cynnwys cyflwyno systemau chwistrellu mewn tai domestig ac adolygu'r targed ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn cartrefi newydd yng Nghymru

Dywedodd y Gweinidog: Rwy'n sylweddoli ei bod hi'n amser caled ar y diwydiant tai ac aelwydydd fel ei gilydd ac rwyf wedi gwrando ar y pryderon sydd wedi'u mynegi mewn ymgynghoriadau cyhoeddus a chan adeiladwyr tai.

"Er hynny, mae'n bwysig ein bod yn dal ati i geisio gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu tai diogel a chynaliadwy i bobl Cymru.

"Does dim amheuaeth bod systemau chwistrellu yn achub bywydau. O fis Ebrill 2014, bydd yn rhaid eu gosod ym mhob cartref newydd ac wedi'i addasu lle ceir risg uchel o farwolaeth neu niwed, fel cartrefi gofal, neuaddau myfyrwyr a thai llety.

"Mewn cartrefi lle bo'r risg yn llai, fel tai a fflatiau newydd, bydd yn rhaid eu gosod o fis Ionawr 2016.

"Mae'r rheoliadau ynghylch allyriadau carbon hefyd yn cael eu newid. Y targed newydd fydd gostyngiad o 8% yn allyriadau adeiladau domestig o'u cymharu â rheoliadau adeiladu 2010 a gostyngiad o 20% mewn adeiladau annomestig.

"Bydd y targedau newydd yn dal i fod yn gam ymlaen i wireddu ymrwymiad yr UE o gael pob adeilad newydd yn ddigarbon a thai i fod bron yn ddi-ynni erbyn 2021."

Cyhoeddodd y Gweinidog y caiff cynllun rhannu ecwiti, Cymorth i Brynu Cymru, ei lansio'n ddiweddarach eleni i helpu prynwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael morgais neu brynu tŷ fforddiadwy i'r teulu.

Bydd y cynllun hwn yn ychwanegol i'r cynllun gwarantu morgais NewBuy Cymru - y mae Llywodraeth yn dal i ymchwilio iddo gydag adeiladwyr a benthycwyr. Rhaid wrth ymrwymiad gan bob carfan iddo lwyddo.

Dywedodd y Gweinidog, "Fy mlaenoriaeth yw adeiladu mwy o gartrefi. Bydd adeiladu rhagor o gartrefi yn bodloni'r angen cynyddol am dai, yn creu twf a swyddi, yn creu gwaith i helpu pobl allan o dlodi ac yn lleddfu effeithiau'r dreth ystafell wely.

"Y pecyn hwn o fesurau yw cam cyntaf ein hymdrechion i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru. Er mwyn llunio polisi cytbwys a chynyddu'r cyflenwad o dai ym mhob sector, rwyf wedi sefydlu tasglu bychan i edrych ar y ffactorau sy'n rhwystro datblygiad. Cewch adroddiad pellach ar y gwaith gennyf ym mis Rhagfyr.”