Jump to content

29 Ionawr 2019

CHC yn annog newidiadau i system wallus Credyd Cynhwysol wrth i denantiaid cymdeithasau tai wynebu bygythiad rhy ychydig o dâl

Gallai tenantiaid cymdeithasau tai Cymru fod yn brin o wythnos o dâl rhent oherwydd y ffordd y caiff system bresennol Credyd Cynhwysol ei threfnu.

Roedd costau tai'n cael eu talu'n wythnosol dan y system Budd-dal Tai, tra bod cylchoedd talu Credyd Cynhwysol yn fisol, a gaiff eu cyfrif drwy luosi taliad wythnosol gan 52 a'i rannu gan 12.

Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yn casglu rhent bob dydd Llun - ac ym mlwyddyn rhent 2019/2020 bydd 53 o ddyddiau Llun. Mae hyn yn digwydd bob tua 5 mlynedd oherwydd bod blwyddyn arferol yn 52 wythnos ac un diwrnod, a blwyddyn naid yn 52 wythnos a 2 ddiwrnod.

Mae dros 13,000 o denantiaid tai cymdeithasol yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y tenantiaid hyn un wythnos yn brin o incwm y flwyddyn rhent hon, a bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i’r diffyg o ffynonellau eraill ar gyfer eu rhent ar y 53fed wythnos.

Rydym yn cynnig gwelliant i reoliadau'r Credyd Cynhwysol, fel mai'r fformiwla newydd ar gyfer cyfrif elfen tai misol y Credyd Cynhwysol yw cyfanswm y rhent blynyddol sy'n ddyledus, wedi ei rannu gan 12. Bydd hyn yn rhoi cefnogaeth lawn i denantiaid, faint bynnag o wythnosau rhent sydd yn y flwyddyn.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolydd Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Cafodd y system Budd-dal Tai ei chynllunio i sicrhau y gall pobl ar incwm isel sy'n rhentu eu cartrefi fforddio talu eu rhent yn wythnosol. Mae Credyd Cynhwysol, y system sy'n ei olynu, ar hyn o bryd yn methu darparu'r gofyniad sylfaenol hwn ar gyfer tenantiaid.

Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y fformiwla ar gyfer Credyd Cynhwysol, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys pob taliad rhent.

Byddai'r newid syml hwn yn galluogi taliadau Credyd Cynhwysol i amrywio flwyddyn ar flwyddyn gyda nifer yr wythnosau rhent a lefelau rhent. Os yw'r system yn aros fel y mae, bydd angen i denantiaid ganfod ffynonellau eraill o incwm, ac os na allant ddod o hyd i'r arian byddant yn mynd i ôl-ddyled heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain."