Jump to content

12 Chwefror 2019

CHC a'i ffederasiynau parhaus yn annog gwneud chwe newid i bolisi Credyd Cynhwysol

Mae tua 76,000 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol ledled Cymru ar hyn o bryd a'r budd-dal yn awr yw'r un awtomatig ar gyfer y rhan fwyaf o bobl oedran gwaith sydd angen cymorth ariannol.

Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw y caiff hawlwyr cymwys eu trosglwyddo i'r system newydd erbyn diwedd 2023. Ar ddiwedd y broses yma, credir y bydd hyd at 500,000 o bobl yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru.

Buom yn gweithio'n agos gyda'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon (y pedair Ffederasiwn) i lobio llywodraeth am welliannau i'r Credyd Cynhwysol a'r system llesiant yn ehangach, cyn trosglwyddo hawlwyr budd-daliadau gwaddol i'r Credyd Cynhwysol yn dechrau o ddifri yn 2020.

Yn dilyn trafodaethau gyda'n haelodau, rydym wedi cytuno ar set o chwe pheth yn ymwneud â llesiant y gofynnwn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig amdanynt, sef:

  • Diwedd ar yr aros 5 wythnos am arian. Dylai hawlwyr fedru gael taliad yng nghanol y cyfnod hwn a dylai fod mwy o hyblygrwydd ar amlder talu i bawb.
  • Mwy o rannu data rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol, ac adfer cydsyniad ymhlyg fydd yn golygu y gall landlordiaid roi cefnogaeth well i denantiaid ac atal problemau. Mae hyn yn allweddol i lwyddiant ymfudo a reolir.
  • Lle caiff budd-dal ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord, rydym angen system sy'n addas i'r diben gyda'r landlord derbyn y taliad yn yr un cylch â'r tenant.
  • Cynyddu cyllid ar gyfer cymorth a chyngor i wneud yn siŵr nad yw pobl yn colli hawl yn cynnwys caniatáu ôl-ddyddio ar gyfer mwy o hawliadau.
  • Gwneud yn siŵr fod gwaith yn talu i bawb drwy baru asesiadau misol gydag enillion o fewn y cyfnod hwnnw, gwella lwfansau gwaith a gostwng y tapr.
  • Adfer uwchraddio cysylltiedig â chwyddiant i fudd-daliadau oedran gwaith o fis Ebrill 2020.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, ers i ni gyhoeddi ein gofynion blaenorol ynghyd â ffederasiynau tai partner, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi nifer o newidiadau a groesawir i'r Credyd Cynhwysol. Er y newidiadau hyn serch hynny, mae gwaith yn dal ar ôl i'w wneud, i fod yn siŵr bod y system yn addas i'r diben.

“Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn bryderus y bydd yn anodd cefnogi tenantiaid sy'n trosglwyddo i'r Credyd Cynhwysol, oherwydd diffyg gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Wrth i'r Credyd Cynhwysol symud tuag at y cam nesaf gydag Ymfudo a Reolir, rydym yn annog y Llywodraeth i ystyried ein gofynion fel dull i gefnogi tenantiaid a chymdeithasau tai gyda'r pontio, a gostwng y baich ar y naill a'r llall."