Jump to content

03 Ebrill 2020

Cefnogi lles tenantiaid yn ddigidol

Cefnogi lles tenantiaid yn ddigidol
Mae Lisa Voyle yn Uwch Swyddog Prosiect gyda Chymdeithas Tai Newydd, ac mae’n dweud wrthym sut maent yn parhau i redeg eu rhaglen Hapi i helpu cadw’r gymuned yn hapus ac iach yn ystod yr argyfwng Coronafeirws (COVID-19).


“Sefydlwyd prosiect Hapi (‘Healthy, Aspiring, Prosperous and Inclusive’) yn 2015, yn defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i gyflwyno rhaglenni iechyd a llesiant yn ardal Rhydfelen am ddwy flynedd. Oherwydd llwyddiant y rhaglenni, a’r ymateb cadarnhaol gan y bobl yn cymryd rhan, rydym wedi gallu ymestyn Hapi am pum mlynedd arall ac ehangu darparu gweithgareddau i dros ddau-draean Rhondda Cynon Taf.


Drwy’r rhaglen, rydym wedi medru cynnal dosbarthiadau coginio i ddysgu pobl sut i goginio prydau iach pan mae arian yn gyfyng, cyrsiau hyfforddiant fel cymorth cyntaf ac wedi medru cynnig cyfleoedd profiad gwaith o fewn tîm cynnal a chadw Newydd. Rydym hefyd yn arwain clybiau rhedeg soffa i 5k, sesiynau rheoli straen gydag arbenigwyr mewn ymwybyddiaeth ofalgar, a sesiynau gwirfoddoli ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan gyda chynnal agweddau o’r rhaglen.


Oherwydd fod y prosiectau mor boblogaidd, a gan fod y cymunedau wedi cymryd cymaint o ran, roeddem yn awyddus i barhau i redeg y rhaglen er gwaethaf y pandemig Coronafeirws. Felly fe aethom yn ddigidol! Rydym yn awr yn defnyddio Facebook Live i gynnal dosbarthiadau ffitrwydd ar gyfer teuluoedd, rhaglen goginio a’r sesiynau canu poblogaidd iawn.


Mewn un wythnos fe wnaethom gyrraedd dros 20,000 o bobl ar Facebook ym mhob rhan o’r byd, mor bell ag Awstralia a Canada.


Fel llawer o rai eraill, rydym wedi gorfod addasu ein ffordd o weithio, ond mae rhedeg Hapi ar Facebook wedi rhoi ffordd arall i ni i gyfathrebu gyda phreswylwyr ac rydym yn cael llawer o sylwadau cadarnhaol gan bawb sy’n cymryd rhan yn y sesiynau digidol newydd.”


Mae mwy o wybodaeth am Hapi ar gael yma neu ymunwch ar Facebook yma yma.


Bydd cymdeithasau tai yng Nghymru yn proffilio eu gwaith i gefnogi tenantiaid yng Nghymru drwy ymgyrch newydd ‘Gyda Chi’. Dilynwch yr ymgyrch yma drwy dudalen Twitter CHC @CHCymru a chwilio am hashnod #gydachi #withyou