Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthdroi polisi llesiant 'gwallus'
Mae dadansoddiad yn dangos effaith y cap Lwfans Tai Lleol (LHA) ar denantiaid Cymru yn cynnwys bylchau rhent a 'loteri cod post' wrth gael mynediad i gartrefi fforddiadwy.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai Cymru, wedi cynnal dadansoddiad sy'n dangos, os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu'r cap LHA ar dai cymdeithasol o fis Ebrill 2019 ymlaen, y bydd yn gwneud tai cymdeithasol yn anfforddiadwy i'r rhai y cawsant eu bwriadu ar eu cyfer.
Maent hefyd wedi rhybuddio fod gallai'r polisi beryglu buddsoddiad yn y dyfodol mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol.
Mae CHC wedi lleisio pryderon am allu'r polisi i achosi caledi hirdymor. Mae ei ddadansoddiad o ddata Llywodraeth Cymru yn dangos fod y cap LHA, a gafodd ei rewi am 4 mlynedd, wedi arwain at:
- Cyfraddau LHA yn ddifrifol anghyson gyda realaeth y farchnad rhent. Caiff dros 60 y cant o gyfraddau LHA eu gosod dan y traean isaf o'r rhent marchnad lleol.
- Mae llai na 10 y cant o'r sector rhent preifat yn hygyrch i bobl sy'n hawlio budd-dal tai mewn rhai ardaloedd o Gymru.
- Loteri cod post: bylchau sylweddol rhwng LHA a rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru, gyda'r tenantiaid yn cael eu taro galetaf yn y cymoedd ac ardaloedd gwledig.
- Er enghraifft: mae tenant sy'n byw mewn annedd un ystafell wely yng Nghaerdydd yn annhebyg o fod â bwlch rhwng y gyfradd LHA a'u rhent, fodd bynnag bydd bwlch o £15 yr wythnos ar gyfer rhywun yn byw mewn annedd debyg ym Mhowys.
Mae'r data hefyd wedi tynnu sylw at y meintiau sampl bach a ddefnyddir i gyfrif y gyfradd LHA yng Nghymru, sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y tebygrwydd y bydd y cyfraddau ar gyfer y traean isaf yn cynrychioli'r farchnad rhent ehangach:
- Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Gyfradd Llety Rhannu (SAR) yn seiliedig ar sampl o 21 yn unig o renti: dim ond 3 o'r 21 rhent a samplwyd sy'n fforddiadwy
- Yng Nghaerdydd, Sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot, Gogledd Orllewin Cymru a Sir Benfro, nid yw tenantiaid sy'n derbyn SAR ond yn derbyn digon o fudd-dal tai i gael mynediad i'r 10% isaf o'r farchnad rhent.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC: "Bydd y polisi gwallus hwn yn gwneud tai cymdeithasol yn anfforddiadwy ar gyfer y rhai y cawsant eu hadeiladu ar eu cyfer a'r rhai sydd fwyaf eu hangen. Mae tenantiaid yn wynebu loteri cod post lle, er enghraifft yng Nghastell-nedd Port Talbot, dim ond 2% isaf y farchnad y byddant yn gallu ei fforddio. Mae ein hymchwil hefyd yn profi mai ardaloedd tlotaf Cymru fydd yn wynebu'r bylchau mwyaf dan y polisi hwn, gan ymsefydlu tlodi ymhellach mewn llawer o gymunedau Cymru ac yn cadarnhau fod y polisi hwn yn symudiad trychinebus ar gyfer tenantiaid ledled Cymru.
"Mae ein haelodau'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu o leiaf 12,500 o gartrefi erbyn 2021 ond bydd y polisi annheg hwn yn rhoi llawer o gartrefi presennol a llawer o'r cartrefi newydd hyn allan o gyrraedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthdroi'r polisi yma sy'n bygwth tanseilio ein holl bolisïau tai datganoledig yma yng Nghymru. Mae'n wrthgynhyrchiol gweithredu polisi lles sy'n gwneud cartrefi cymdeithasol yn anfforddiadwy i denantiaid, ac mae'n hanfodol y cymerir camau ar unwaith i wrthdroi'r penderfyniad i weithredu cyfraddau LHA i'r sector rhent cymdeithasol."
Darllenwch yr adroddiad yma.