Jump to content

20 Ebrill 2018

Cartrefi Cymunedol Cymru yn croesawu cyhoeddiad Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Cynulliad ar gysgu ar y stryd

Croesawn gyhoeddi ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Cynulliad ar gysgu ar y stryd.

Dywedodd Will Atkinson, Rheolwr Polisi a Rhaglenni:

"Mae cysgu ar y stryd yn niweidiol tu hwnt i bobl. Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithio'n ddiflino i atal a lliniaru cysgu ar y stryd drwy ddarparu llety dros dro, gwasanaethau cymorth a chartrefi diogel a sicrwydd hirdymor. Mae cymdeithasau tai ar hyn o bryd yn dyrannu cyfran sylweddol o'u cartrefi i aelwydydd digartref. Mewn rhai achosion caiff cynifer ag un ym mhob deg o gartrefi cymdeithasau tai eu gosod i deuluoedd neu unigolion digartref.

"Rydym yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor i asesu lefelau aelwydydd digartref sy'n cael eu dyrannu i dai cymdeithasol awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai. Rydym yn cydnabod yr angen am welliant parhaus a'r wythnos nesaf byddwn yn lansio adroddiad ymchwil yn edrych ar fynediad i denantiaethau cymdeithasol yng Nghymru. Caiff yr adroddiad hwn, a gomisiynwyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei rannu gyda phecyn cymorth i gefnogi cymdeithasau tai i wella mynediad i denantiaethau ar gyfer aelwydydd digartref.

"Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru".