Jump to content

02 Awst 2017

Cartrefi Cymunedol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cafodd canfyddiadau ymchwiliad naw mis i'r trosolwg rheoleiddiol o gymdeithasau tai yng Nghymru ei gyhoeddi heddiw, gan ddod i'r casgliad y bu newid rheoleiddiol yn y sector yn 'gam yn y cyfeiriad cywir' wrth sicrhau mwy o dryloywder ac agoredrwydd.

Wedi'i arwain gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r adroddiad yn dweud y bu newidiadau rheoleiddiol diweddar, yn cynnwys lansio'r dyfarniad rheoleiddiol newydd a fframwaith rheoleiddiol diwygiedig ar safonau perfformiad newydd, yn symudiad cadarnhaol i'r sector.

Derbyniodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan Cartrefi Cymunedol Cymru, cymdeithasau tai Cymru, grwpiau tenantiaid a benthycwyr, a hefyd yn argymell sut y gellir gwella rheoleiddio ymhellach, yn cynnwys:

  • cynyddu data sydd ar gael i'r cyhoedd ar berfformiad cymdeithasau tai
  • adolygu buddion a risgiau arallgyfeirio
  • galluogi cymdeithasau tai i dalu i aelodau eu bwrdd ac adrodd ar hyn mewn ffordd agored a thryloyw

Mae'r pwyllgor hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, yn cynnwys awgrymu y gellid recriwtio timau rheoleiddiol o'r tu allan i'r gwasanaeth sifil.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad heddiw gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sy'n dilyn ymchwiliad cadarn a maith i reoleiddiad cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod rôl hollbwysig cymdeithasau tai wrth fynd i'r afael â'r argyfwng tai, a daw i'r casgliad fod y fframwaith rheoleiddiol newydd yn gam yn y cyfeiriad cywir i wneud rheoleiddio cymdeithasau tai yn fwy agored, tryloyw a hygyrch.

"Mae'r adroddiad yn cydnabod gwaith cynyddol amrywiol cymdeithasau tai, yn cynnwys darparu gwasanaethau cymorth, ac adeiladu cartrefi ar gyfer prynwyr tro cyntaf a llety myfyrwyr. Fel busnesau cymdeithasol annibynnol, mae'r arallgyfeirio yma'n galluogi cymdiethasau tai yng Nghymru i gynhyrchu mwy o fuddsoddiad, sy'n gwneud i'r arian cyhoeddus a dderbyniwn fynd ymhellach a chaniatau i ni barhau i ganolbwyntio ar ein diben craidd o ddarparu cartrefi fforddiadwy.

"Rydym hefyd yn cydnabod yr her a amlygir i gymdeithasau tai yn yr adroddiad, yn neilltuol yng nghyswllt gwella tryloywder a hygyrchedd gwybodaeth ar gyfer tenantiaid, a byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu ar enghreifftiau o arfer da a symud ymlaen gyda'r argymhellion hyn fel bod gan gymunedau fynediad i wybodaeth a data ystyrlon ac amserol.

"Rydym yn falch fod y pwyllgor wedi cydnabod pwysigrwydd Cod Llywodraethiant CHC wrth sicrhau fod ansawdd llywodraethiant yn y sector yn parhau'n uchel. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n haelodau i gryfhau ac adolygu'r Cod dros y misoedd i ddod i sicrhau ei fod yn parhau'n gadarn, ac i gymryd rhan lawn yn adolygiad y Bwrdd Rheoleiddiol ar lywodraethiant.

"Fel sefydliadau annibynnol, mae'n iawn caniatau i gymdeithasau tai ystyried p'un ai i dalu i aelodau bwrdd, a chefnogwn y pwyllgor yn yr argymhelliad hwn. Mae'r adroddiad hefyd yn argymhell caniatau i'r rheoleiddiwr i recriwtio'n allanol, fel y gellir llogi'r rhai gyda'r sgiliau cryfaf a mwyaf addas, ac anogwn Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad hwn fydd yn helpu i wella llywodraethiant a rheoleiddiad y sector.


. Nodiadau i'r Golygydd

  • Mae cymdeithasau tai yn berchen ac yn rheoli 158,000 o gartrefi ledled Cymru
  • Yn 2015/16 darparodd cymdeithasau tai 2,322 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru
  • Ers 2008, maent wedi darparu cyfanswm o 17,864 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol; cafodd 29% o'r rhain (5229 cartref) eu darparu heb Grant Tai Cymdeithasol
  • Yn 2015/16, gwariodd cymdeithasau tai Cymru £1.05bn yn uniongyrchol gan gyfrannu £1.97bn i'r economi - gyda 89% yn aros yng Nghymru
  • Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cyflogi 9,109 cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, ac yn cefnogi mwy na 23,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ledled Cymru


Mae Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru, ar gael ar gyfer cyfweliadau.