Jump to content

08 Mawrth 2018

Cartrefi Cymunedol Cymru i lansio Cod Llywodraethiant newydd

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru y caiff Cod Llywodraethiant newydd ar gyfer cymdeithasau tai ei gyhoeddi ar ôl wyth wythnos o gyfnod ymgynghori gyda'r sector.

Bydd ymagwedd y cod newydd yn wahanol i arferion llywodraethiant traddodiadol, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant sefydliad yn hytrach na phrosesau.

Bydd yn cynnwys saith egwyddor sylfaenol ar gyfer llywodraethiant da, yn cynnwys diben sefydliadol; arweinyddiaeth; cywirdeb; gwneud penderfyniadau; risg a rheoli; effeithlonrwydd bwrdd; amrywiaeth; a bod yn agored a thryloyw.

Mae'r gwaith i ddatblygu'r cod wedi cyd-daro gydag adolygiad llywodraethiant Bwrdd Rheoleiddiol Cymru o'r sector cymdeithasau tai.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Stuart Ropke fod y Cod Llywodraethiant newydd yn dangos ethos uchelgeisiol sector tai Cymru.

"Mae dyheadau mawr angen arweinyddiaeth gref. Nid ydym mwyach yn siarad am broses ond am ddiwylliant. Nid ydym mwyach yn gosod rhestr wirio ond set o egwyddorion y bydd sefydliadau a byrddau yn eu dehongli a'u mabwysiadu yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer diben a chenhadaeth eu sefydliad neilltuol.

"Mae'r cod yn adlewyrchu ein sefyllfa fel sefydliadau preifat, annibynnol gyda set amrywiol o randdeiliaid yn amrywio o denantiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth, ein partneriaid mewn llywodraeth ganolog a lleol, gweithwyr cyflogedig, buddsoddwyr a'r cymunedau y gweithredwn ynddynt.

"Bydd y cod yn helpu byrddau a thimau arweinyddiaeth i feddwl yn gliriach ac yn strategol am genhadaeth, diben a strwythur. Bydd hefyd yn cynorthwyo'r rheoleiddwyr gan y bydd y dyfarniad am lywodraethiant da yn canolbwyntio ar ddeiliannau a diwylliant ac nid dim ond cydymffurfiaeth.

"Mae ein Cod Llywodraethiant yn dangos esblygiad sector sy'n anelu i fod y gorau y gall fod, sy'n deall ei gyfrifoldeb fel buddsoddwyr sylweddol yn economi Cymru ac fel darparwyr gwasanaeth cyhoeddus.

"Rydym ar adeg o ansicrwydd a her enfawr, ond mae'n gyfnod pan y gall cymdeithasau tai yng Nghymru wneud mwy o wahaniaeth nag erioed o'r blaen wrth i ni anelu i wneud Cymru yn fan lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb."

I gyfrannu at yr ymgynghoriad e-bostiwch: codeofgovernance@chcymru.org.uk