Jump to content

01 Ebrill 2020

Cartrefi Conwy yn lansio ymgyrch ‘Yma i Helpu’ i gefnogi tenantiaid

Cartrefi Conwy yn lansio ymgyrch ‘Yma i Helpu’ i gefnogi tenantiaid
Yn ystod yr argyfwng Coronafeirws (COVID-19), mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn gorfod newid y ffordd y cefnogant denantiaid. Mae Annette Hennessey o Cartrefi Conwy yn siarad am y gefnogaeth a gynigiant i’w tenantiaid.


“Gyda’r sefyllfa gyda’r coronafeirws yn dechrau dod yn fwy difrifol, gwyddem y byddai’n rhaid i ni ddechrau gwneud penderfyniadau i gau ein swyddfeydd a gostwng cysylltiad gyda thenantiaid. Fe wnaethom hefyd ddechrau derbyn nifer cynyddol o alwadau gan denantiaid oedd yn bryderus sut y gallai’r newidiadau effeithio arnynt. Mewn ymdrech i roi sicrwydd i’n tenantiaid, fe wnaethom ddechrau ymgyrch ‘Yma i Helpu’ gan roi wyneb i’r timau fydd yn parhau i roi cefnogaeth, a sut olwg fyddao ar hynny.


Fel arfer mae Nerys yn gweithio fel Swyddog Ymgysylltu Pobl Hŷn, gan drefnu gweithgareddau ar gyfer preswylwyr hŷn. Oherwydd y bu’n rhaid atal y gweithgareddau hynny dros dro, mae Nerys yn awr yn gweithio gyda thîm llesiant sydd newydd ei sefydlu. Mae’r tîm yn cynnwys cydweithwyr, rhai ohonynt wedi eu symud o feysydd eraill, ac maent yn treulio eu hamser yn ffonio tenantiaid hŷn a mwy bregus i weld pa help a chefnogaeth y gallant fod ei hangen dros yr wythnosau nesaf.


Mae nifer o denantiaid wedi cysylltu â ni oedd yn bryderus am dalu eu rhent a biliau eraill gan fod eu hamgylchiadau ariannol wedi newid yn gyflym. I roi sicrwydd i denantiaid rydym hefyd wedi rhoi ffocws ar Dan, sy’n rheoli’r Tîm Cymorth Arian, gan gynnig cefnogaeth a chyngor i unrhyw un a fedrai fod yn cael anawsterau.


Drwy roi’r sylw ar aelodau o’n timau, gallwn roi sicrwydd i denantiaid bod Cartrefi Conwy yn dal yma i gefnogi a rhoi clust i wrando. Mae hefyd tenantiaid ein bod i gyd yn ‘ddynol’.


Cawsom ymateb gadarnhaol iawn gan denantiaid a bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio ein llwyfannau digidol yn hytrach na ffonio mewn. Mae tenantiaid yn gwerthfawrogi y bu’n rhaid i ni addasu fel sefydliad, a’n bod yn gwneud popeth a fedrwn i gynnal lefel uchel o gefnogaeth ac agor cyfathrebu, hyd yn oed os na allwn ymweld â thenantiaid yn uniongyrchol mewn rhai achosion.”


Gallwch weld mwy o enghreifftiau o’r cynllun ‘Yma i Helpu’ yma ac yma.