Cartrefi: ar gyfer Pob Dyfodol - CHC yn lansio ymgyrch genedlaethol cyn yr etholiad i’r Senedd
Gyda dim ond 100 i fynd tan etholiad 2026 i Senedd Cymru, mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi lansio Cartrefi: ar gyfer pob dyfodol – ymgyrch genedlaethol yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gynllun dewr a chyraeddadwy i ddod ag argyfwng tai Cymru i ben.
Mae’r ymgyrch yn adeiladu ar faniffesto CHC, a gaiff hefyd ei gyhoeddi heddiw, sy’n galw am weithredu ar frys ar dair blaenoriaeth greiddiol, sef:
Mwy o gartrefi: cartrefi da y gall pobl eu fforddio ym mhob cymuned
Cartrefi gwell: cartrefi sy’n adeiladu dyfodol gwell
Lleoedd iachach a thecach: sy’n paratoi pawb ar gyfer llwyddiant
Caiff y lansiad ei nodi gan stori Billie, mam sengl a dreuliodd chwe mis yn byw mewn llety gwely a brecwast gyda’i merch ifanc cyn symud i gartref cymdeithasol parhaol a ddarparwyd gan Cartrefi Conwy.
Cafodd Billie a’i merch eu rhoi mewn llety argyfwng ar ôl i berthynas chwalu a’u gadael yn ddigartref, heb ddewis aros yng nghartref y teulu a heb unrhyw gefnogaeth ar gael gan ffrindiau neu deulu. Gadawodd y tarfu a achoswyd gan lety dros dro ei ôl, yn arbennig ar gwsg a threfn ysgol o ddydd i ddydd merch Billie.
Mae ei phrofiad yn dangos cost ddynol yr argyfwng tai a hefyd effaith cartref da, a all newid bywydau.
“Mae symud i gartref parhaol wedi newid popeth,” meddai Billie.
“Gwybod na fydd yn rhaid i ni symud eto yw’r hyn sydd bwysicaf i mi. Mae wedi rhoi sefydlogrwydd a heddwch meddwl i ni. Mae gan fy merch ei gofod ei hun, mae’n cysgu’n well a gallwn o’r diwedd setlo i drefn bob dydd.
“Mae gen i bellach ddyfodol y gallaf edrych ymlaen ato, yn ein cartref ein hun lle’r ydym yn teimlo’n ddiogel.”
Mae profiad Billie yn dangos y realaeth sy’n wynebu miloedd o deuluoedd ar draws Cymru. Mae tua 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd, yn cynnwys dros 2,500 o blant, gyda llawer mwy yn gorfod aros mewn cartrefi sy’n anfforddiadwy, anaddas neu anniogel.
Mae straeon fel stori Billie yn tanlinellu pam fod yn rhaid i dai fod wrth ganol gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn y cyfnod cyn yr etholiad. Heb weithredu penderfynol yn nhymor nesaf y Senedd, bydd y pwysau ar deuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a’r GIG yn parhau i dyfu a bydd cenhedlaeth eraill yn wynebu llai a llai o gyfleoedd.
Nod Cartrefi: ar gyfer pob dyfodol yw sbarduno sgwrs genedlaethol cyn yr etholiad ac adeiladu momentwm tu ôl i uchelgais cyffredin. Bydd CHC a’i aelodau yn rhoi sylw i straeon go iawn o bob rhan o Gymru ar effaith cartref da, a all newid bywydau – gan wahodd y cyhoedd, partneriaid ac ymgeiswyr wleidyddol i gefnogi dyfodol lle mae cartrefi da o fewn cyrraedd pawb.
Dylai pob person yng Nghymru gael lle diogel a fforddiadwy i’w alw’n gartref. Mae gan Gymru y dalent, y syniadau a’r ewyllys i wneud iddo ddigwydd. Yr hyn sydd ei angen nawr yw dewrder gwleidyddol.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae Cymru ar groesffordd. Gallwn barhau i reoli argyfwng, neu gallwn ddewis rhoi diwedd arno.
“Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn byw mewn cartrefi sy’n anfforddiadwy, anaddas neu anniogel. Nid oes gan filoedd mwy unrhyw le i’w alw’n gartref. Mae gan y Senedd nesaf y grym i newid hyn, ond dim ond os yw’n ymrwymo i gynllun dewr a chyraeddadwy sy’n cyfateb maint yr her.
“Mae cymdeithasau tai wedi dangos yr hyn sy’n bosibl. Gyda chyllid sefydlog a map trywydd clir, gallwn gyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy, gwella cartrefi presennol a gweithio gyda phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gadw pobl yn iach yn eu cartrefi.
“Cartrefi da yw seilwaith ataliol Cymru. Os cawn dai yn iawn, fe gawn iechyd, addysg, swyddi a chyfle yn iawn. Cartref yw sylfaen pob dyfodol. Dyma’r amser ar gyfer gweithredu.”
Gallwch ddysgu mwy am ein hymgrych Cartrefi: ar gyfer Pob Dyfodol yma.