Jump to content

30 Mawrth 2020

Cadw’n Ddiogel, Dilyn y Rheolau, Bod yn Gadarnhaol a Bod yn Gryf

Cadw’n Ddiogel, Dilyn y Rheolau, Bod yn Gadarnhaol a Bod yn Gryf
Fe wnaeth Nick Fewings sefydlu Ngagementworks i helpu sefydliadau i drawsnewid eu timau a sicrhau mwy fyth o lwyddiant. Yma mae’n edrych sut y gall pob un ohonom helpu ein gilydd i oroesi’r cyfnod anodd hwn, gan sicrhau na chaiff ein llesiant personol ein hunain na phobl eraill ei niweidio.


“Mae’n sicr mai’r ychydig wythnosau diwethaf fu’r rhai mwyaf swreal, pryderus a thrawsnewidiol a welais erioed ac mae’r un peth yn siŵr o fod yn wir amdanoch chi. Ni chredaf i neb weld hyn yn dod o ran y newidiadau enfawr a fyddai’n digwydd i’n bywydau personol a hefyd ein bywydau busnes.


Felly sut fedrwn ni helpu ein gilydd i oroesi’r cyfnod anodd hwn, tra’n sicrhau na chaiff ein llesiant personol ein hunain na phobl eraill ei niweidio?


Islaw mae ychydig o sylwadau, cynghorion ac awgrymiadau y gobeithiaf all eich helpu chi a’ch anwyliaid.
  1. GWERTHFAWROGI AMRYWIAETH


Y peth cyntaf y sylwais arno pan wnaeth realaeth ddechrau taro oedd llif o wahanol emosiynau ac ymateb gan bobl ar Facebook, Twitter, WhatsApp, Linked In ac y blaen. Cafodd hyn ei gadarnhau gan wahanol bobl a welais ar y newyddion.


Daeth yn amlwg ar unwaith fod pobl yn ymateb yn ôl eu prif ddewisiadau ymddygiad. Lluniais y ddelwedd islaw i grynhoi’r ymatebion hynny ar lefel uchel. Sylwais fod pobl hefyd yn mynd yn ddig at eu gwrthwyneb o ran ymddygiad yn gyntaf ac yn bennaf, Melyn gyda Glas a Gwyrdd gyda Choch a’r ffordd arall o amgylch.


I mi, y wers allweddol y mae’n rhaid i ni ei chofio a’i gwerthfawrogi yw nad oes yna unrhyw ffordd gywir neu anghywir i bobl adweithio ac ymddwyn yn ystod y pandemig cyfredol yma. Maent yn debygol o wneud hynny yn seiliedig ar eu dewisiadau ymddygiad. Yn hytrach na theimlo’n rhwystredig oherwydd y mathau ymddygiad yma oherwydd nad ydynt yn ymateb yr un ffordd â chi, mae’n rhaid i ni ddeall, cefnogi a gwerthfawrogi os, ydynt yn ymddygiadol wahanol i ni, y bydd eu hadwaith hefyd yn wahanol.


Felly, er eu bod yn adweithio ac yn ymddwyn yn wahanol i chi, peidiwch eu gweld fel ANODD, gwerthfawrogwch mai’r cyfan ydynt yw GWAHANOL i chi ac yn hytrach nag iddynt achosi RHWYSTREDIGAETH i chi, gadewch i’r hunan gael eich SWYNO gan y gwahaniaethau hyn.


Rwy’n credu y dylai pawb ohonom gofio am y dyfyniad hwn gan Stephen Covey:


“Yn gyntaf ceisiwch ddeall ac yna gael eich deall.”
  1. CADW GOLWG AM ARWYDDION DAN BWYSAU


Cawsom ein llethu gyda chyfathrebu drwy e-bost, cyfryngau cymdeithasol, y newyddion, perthnasau, cyfeillion a gwaith. Gall hyn ohono’i hun achosi llawer iawn o bwysau gan y bydd ein hymennydd, yn seiliedig ar ein dewisiadau ymddygiad, yn ceisio “hidlo” yr wybodaeth sy’n bwysig i ni.


Yn ddieithriad, mae’r rhai sy’n arwain gyda:


Egni Coch - eisiau gwybod beth sydd angen ei wneud, beth sydd angen iddyn nhw ei wneud a phryd y bydd hynny yn digwydd.


Egni Melyn – eisiau cael newyddion cadarnhaol, sut mae pobl yn cadw eu hysbryd lan a’r ffyrdd creadigol y caiff y broblem ei thrin.


Egni Gwyrdd – eisiau gwybod sut mae bywydau’n cael eu diogelu a sut y gallant chwarae eu rhan wrth gefnogi ein hunain, tra’n eu cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.


Egni Glas – eisiau gwybod sut i leihau risgiau, pa gynlluniau sydd yn eu lle a’r amserlen ar gyfer goresgyn y broblem a’r rheolau sydd angen eu cadw.


Gan fod cymaint o gyfathrebu ar hyn o bryd, mai fel petai bod miloedd o bobl i gyd yn gweiddi arnom a cheisio cael ein sylw, i gyd ar yr un pryd a gall hynny ein llethu.


Pan gawn y cyfan yn ormod i ni, rydym yn aml yn dechrau arddangos nodweddion ymddygiad “Dan Bwysau”. Mae’r ddelwedd islaw’n dangos ansoddeiriau “Meddwl Cadarnhaol” a “Dan Bwysau” y pedwar dewis ymddygiad lefel uchel. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfuniad o ddau, felly efallai y byddwch yn cysylltu eich hun gyda chyfuniad o ansoddeiriau ar ddau o’r cardiau, yn fwy nac o’r lleill.


Y wers allweddol o hyn yw yn gyntaf fod yn ymwybodol os ydych yn dangos nodweddion “Dan Bwysau” ac yn ail, os ydych yn gweld y nodweddion hyn mewn eraill.


Os byddwch yn eu gweld ynddoch eich hun, ysgrifennwch y pethau sy’n effeithio arnoch yn negyddol yn nhermau cyfathrebu a gweld os oes unrhyw ffyrdd y gallwch hidlo allan y pethau sy’n achosi i chi fod dan bwysau.


Os gwelwch y nodweddion negyddol hyn mewn aelodau o’r teulu y gallech fod yn hunanynysu gyda nhw, gofynnwch iddynt os ydynt yn iawn ac os gallwch gynnig unrhyw gefnogaeth iddynt.


Yn olaf, os aiff pethau’n ormod, bydd ein hymddygiad yn aml yn newid i’r gwannaf o’n dewisiadau ymddygiadol a bydd yn aml yn dod allan mewn ffordd blentynnaidd, gan nad ydym yn gyfarwydd gydag ef.


Gan fod gan fwyafrif y bobl eu dewis ymddygiad lleiaf fel gwrthwyneb i’w dewis pennaf;


Gall y rhai sy’n arwain gydag Egni Coch ddod yn or-emosiynol ac efallai dorri lawr a wylo.


Gall y rhai gydag Egni Melyn encilio, dod yn fewnblyg iawn a pheidio dymuno rhyngweithio gydag eraill.


Gall y rhai gydag Egni Gwyrdd ffrwydro fel llosgfynydd, gan regi wrth wneud hynny.


Gall y rhai gydag Egni Glas ddod yn gynyddol aflonydd ac yn fyw bywiog yn eu hystum corff.


Cofiwch am yr uchod, gan fod ein hymennydd yn rhoi falf gollwng pwysau i ni. Yn aml, y bydd y newidiadau mwy eithafol hyn yn digwydd am gyfnod byr, cyn i berson ddychwelyd i rywfaint o ymddygiad arferol; fodd bynnag cofiwch os yw rhywun yn arddangos y nodweddion hyn dros gyfnod hir gallant fod angen mwy o gefnogaeth nag y gallwch chi ei roi.


Gobeithiaf fod yr uchod yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o sut y gallwn ni ac eraill fod yn ymddwyn yn wahanol yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. I mi, yr allwedd i helpu ein hunain ac eraill yw dangos cydymdeimlad a goddefgarwch a dal ati i siarad am sut y teimlwn.


Yn olaf, p’un ai ydych yn arwain gydag egni Gwyrdd, Glas, Melyn neu Goch:


Cadwch yn Ddiogel, Dilynwch y Rheolau, Byddwch yn Gadarnhaol a Byddwch yn Gryf. Gyda’n Gilydd Byddwn yn Llwyddo.


Nick Fewings, Prif Swyddog Gweithredol, Ngagementworks