Jump to content

18 Rhagfyr 2020

Bydd cartref wedi'i addasu yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd Hilary

Bydd cartref wedi'i addasu yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd Hilary
Ni fu ble’r ydym yn byw erioed yn bwysicach i sut ydym yn byw. Mae maniffesto Cartref yn rhoi sylw i rai o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, gyda chymdeithasau tai wedi ymrwymo i weithio law yn llaw gyda Llywodraeth Cymru i adeiladau cymunedau mwy iach, llewyrchus a gyda chysylltiadau gwell.


Bu Hilary Stokes, 77, o Borthmadog yn denant gyda Grŵp Cynefin am 21 mlynedd. Mae’n paratoi i symud i gartref newydd a gafodd ei addasu ar gyfer ei hanghenion iechyd. Dywedodd:


“Mae fy iechyd wedi torri mewn blynyddoedd diweddar ac mae’n fwy anodd i mi fynd o gwmpas, felly pan gynigiodd Grŵp Cynefin fflat ar y llawr isaf i fi gyda chawod wedi addasu ar ddatblygiad newydd, fe wnes dderbyn yn syth. Mae’n mynd i wneud cymaint o wahaniaeth a fedra i ddim aros symud yno mewn ychydig wythnosau. Maen nhw hyd yn oed yn trefnu fan ddodrefn i fy helpu i symud, sy’n help mawr.


“Fedra’i ddim diolch digon i Grŵp Cynefin am eu cefnogaeth, yn arbennig y tîm llesiant. Fe wnaeth fy mheiriant golchi dorri’n ddiweddar ac fe wnaethon nhw fy rhoi mewn cysylltiad gyda’r tîm llesiant wnaeth fy helpu i wneud cais am arian gan Lywodraeth Cymru am beiriant newydd.


“Dwi wedi cael hyd yn oed fwy o gefnogaeth ers hynny. Fe wnaeth Verity, un o’r swyddogion llesiant, fy helpu i wneud cais am y budd-daliadau roedd gen i hawl iddynt ond nad oeddwn erioed wedi clywed amdanynt, felly rwy’n awr yn cael £156 o gymorth wythnosol ar gyfer Lwfans Gweini a Phremiwm Anabledd Difrifol ar fy mhensiwn.


“Fedra i ddim credu faint o wahaniaeth mae wedi ei wneud. Dydw i ddim yn gorfod crafu byw erbyn hyn a mae fy iechyd meddwl yn llawer gwell.


“Mae Verity hefyd wedi fy rhoi mewn cysylltiad gyda Therapydd Galwedigaethol ac mae hynny wedi cael effaith enfawr ar fy iechyd. Maent yn wir wedi troi fy mywyd o gwmpas. Mae gwybod eu bod yno i helpu yn bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau.”


Darllenwch fwy am faniffesto Cartref yma.