Jump to content

06 Ionawr 2017

Bron Afon yn helpu tenantiaid a phreswylwyr i ddysgu mwy am fesuryddion deallus

Jonathan Hyde yn arwain gwaith Bron Afon i hyrwyddo ymestyn mesuryddion deallus i denantiaid.

Rydym ni ym Mron Afon yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i denantiaid a phreswylwyr, fodd bynnag rydym yn fwy na landlord yn unig ac yn benderfynol o'u cynnwys wrth wella'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Rydym hefyd yn hoffi rhoi gwybod i denantiaid sut y gallant arbed arian a bod yn fwy ymwybodol o faint o ynni a ddefnyddiant yn eu cartref ar unrhyw amser.

Dyna pam ein bod yn cefnogi'r ymgyrch i ymestyn mesuryddion deallus ledled Prydain.

Yn arwain yr ymgyrch mae Smart Energy GB, corff annibynnol a sefydlwyd gyda'r unig ddiben o wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod beth sy'n digwydd, yn ogystal â manteision cael mesurydd deallus.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn gweithio gyda Smart Energy GB i wneud yn siŵr fod gan gymdeithasau tai fel ni yr holl wybodaeth rydym ei hangen i ddweud wrth denantiaid, preswylwyr a staff am fesuryddion deallus. Gallwch gael mynediad i daflenni, llyfrynnau, posteri ia fideos ar dudalen adnoddau CHC,

Gall CHC hefyd gyflenwi logos a gwybodaeth ar gyfer negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

Erbyn 2020 bydd pawb ym Mhrydain wedi cael cynnig mesurydd deallus gan eu cyflenwr fel rhan o gynllun cenedlaethol i ddiweddaru ein system ynni. Nid oes cost ychwanegol am gael mesurydd deallus ac mae un ar gyfer trydan ac un arall ar gyfer nwy (os ydych ar nwy prif bibell).

Prif fantais cael mesurydd deallus yw medru gweld faint o drydan a nwy yr ydych yn eu defnyddio a'r gost mewn punnoedd a cheiniogau. Caiff yr wybodaeth am ddefnydd a chost ei ddangos ar declyn arddangos yn y cartref ac mae'n galluogi tenantiaid i reoli eu biliau ynni.

Bydd hefyd yn golygu diwedd i amcangyfrif biliau neu ddieithriaid yn dod i'ch cartref i ddarllen y mesurydd. Yn ogystal mae'n golygu nad oes angen gweithio allan beth mae'ch bil yn debygol o fod, gan y bydd y mesurydd deallus yn gwneud y cyfan yn awtomatig a hysbysu eich cyflenwr drwy ei rwydwaith WIFI diogel ei hun.

Mantais arall yw bod mesurydd deallus yn ei gwneud yn rhwyddach newid rhwng cyflenwyr ynni, gan roi mwy o hyblygrwydd i denantiaid edrych o amgylch am y cynnig gorau. Gellir hefyd ei ddefnyddio gyda mesurydd blaendalu ac eto bydd yn helpu tenantiaid sydd angen newid rhwng gwahanol ddulliau talu.

Mae'r teclyn dangos hefyd yn dweud wrth unrhyw un gyda mesurydd blaendalu faint o gredyd sydd ganddynt ar ôl ac os yw'n mynd yn isel. Ni fydd angen rhoi allwedd na chredyd yn y mesurydd i ychwanegu at y credyd. Yn lle hynny, gellir ei wneud ar-lein, drwy ap ffôn symudol neu gydag arian parod mewn siop leol yn ôl yr arfer.

Mae manteision i gymdeithasau tai hefyd. Bydd gan denantiaid fwy o reolaeth dros eu costau ynni a gobeithio y bydd hynny'n golygu na fyddant yn mynd i ddyled neu heb fod yn gwresogi eu cartrefi'n ddigonol. Dylai hefyd helpu i ddiogelu iechyd a llesiant yn ogystal â phroblemau fel cyddwysiad yn eu cartrefi.

Fel unrhyw raglen ymestyn wirfoddol, gall weithiau fod yn anodd darbwyllo pobl eraill i newid drosodd i rywbeth newydd - hyd yn oed pan na fydd mesurydd deallus yn costio dim yn ychwanegol.

Dyna pam fod CHC yn cymryd rhan ac yn hyrwyddo manteision mesuryddion deallus i denantiaid, eu cymdeithasau tai ac aelodau staff. Os hoffech wybod mwy, edrych ar y dudalen adnoddau neu gysylltu ag Adele Harries-Nicholas, Rheolydd Gwasanaethau Aelodau a Datblygu Busnes CHC ar 029 20 674803 neu anfon e-bost at Adele-Harries-Nicholas@chcymru.org.uk.