Jump to content

03 Mai 2019

Bod yn rhan o Gynllun Prif Awdurdod Tan newydd

Bod yn rhan o Gynllun Prif Awdurdod Tan newydd
Ym mis Ebrill, gwnaethom lansio partneriaeth gydlynol Prydain ar gyfer diogelwch tân yn y sector tai yng Nghymru. Gofynnwyd i ddau gymdeithas tai beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o'r cynllun.


Tai Dewis Cyntaf oedd y gymdeithas tai cyntaf i ymuno yn y cynllun. Dywedodd Sarah Roberts, Rheolydd Sicrwydd Iechyd a Diogelwch:


"Mae grŵp Diogelwch Tân Strategol Cartrefi Cymunedol Cymru wedi bod yn sbardun i alluogi newid cadarnhaol o fewn maes diogelwch tân mewn tai cymdeithasol yng Nghymru. O'r tro cyntaf y codwyd y syniad o gynllun prif awdurdod yn y grŵp hyd at y cynllunio a nawr y lansiad, rwyf bob amser wedi hyrwyddo'r manteision enfawr y byddai cynllun o'r fath yn ei roi i sector tai Cymru.


Yn y pen draw, bydd y bartneriaeth newydd yn gwella diogelwch y bobl sy'n byw yn ein cartrefi. Bydd yn rhoi mwy o gysondeb mewn gorfodaeth, cynyddu partneriaethau gyda gwasanaethau tân yng Nghymru a rhoi llais cryfach i'r sector wrth ddylanwadu ar safonau mewn diogelwch tân.


Rwy'n hapus iawn i weld y Bartneriaeth Diogelwch Prif Awdurdod Tân cael ei ffurfioli ac yn falch iawn mai ni yw'r bartneriaeth prif awdurdod tân gydlynol cyntaf yn y sector tai cymdeithasol ym Mhrydain."






Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ymwneud yn agos gyda sefydlu'r cynllun. Dywedodd Gareth Davis, Rheolydd Iechyd a Diogelwch:


"Ar ôl bod yn gysylltiedig gyda nifer o Bartneriaethau Prif Awdurdod yn ystod fy ngyrfa fel swyddog gorfodaeth a hefyd fel ymarferydd iechyd a diogelwch, rwy'n deall manteision go iawn perthynas o'r fath. Roeddwn felly yn hynod falch i gael fy ngwahodd i helpu sefydlu y bartneriaeth prif awdurdod gydlynol rhwng CHC a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.


"Mae cyngor y Prif Awdurdod yn awr ar gael drwy CHC fel ein corff cydlynu, a chaiff y cyngor hwn ei deilwra i anghenion cyffredinol aelodau.


Gellid dadlau mai budd mwyaf gwerthfawr aelodaeth yw'r mynediad i gyngor 'â sicrwydd'. Mae'r bartneriaeth yn rhoi llwyfan i ni drafod a llunio dulliau gweithredu cydymffurfiaeth gyda'r ddeddfwriaeth sy'n gweddu orau i'n sector a'r amgylchiadau a rannwn.


Dyma'r bartneriaeth gydlynol gyntaf ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ym Mhrydain a heb unrhyw gost i aelodau am o leiaf dair blynedd, mae'n wirioneddol yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill!"


Darganfyddwch mwy yma.