Jump to content

29 Gorffennaf 2021

Blaenoriaethau Polisi

Blaenoriaethau Polisi

Efallai y
cafodd y prif sylw yn 2020/21 ei roi i Covid-19 a’r etholiadau i Senedd
Cymru, ond mae tîm polisi Cartrefi Cymunedol Cymru wedi parhau i weithio
ar feysydd allweddol arall ynghyd ag elfennau mwy ymatebol eu swyddi.
Yma, mae ein Rheolwyr Polisi a Materion allanol yn disgrifio beth yw eu
prif ffocws ar hyn o bryd.


Bethan Proctor sy’n arwain ein gwaith ar ddatgarboneiddio a
blaenoriaethau diogelwch adeiladau. Dyma’r hyn y mae’n gweithio arno
nawr:


“Mae datgarboneiddio yn flaenoriaeth allweddol i gymdeithasau tai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed mewn deddf i gyrraedd sero-net
erbyn 2050, a gyda chartrefi yn gyfrifol am 15% o holl allyriadau nwyon
tŷ gwydr ar yr ochr alw yng Nghymru, mae gan dai ran allweddol mewn
datgarboneiddio’r genedl.


Pa dechnolegau gwresogi ddylem ni eu defnyddio? Sut y caiff hyn ei
ariannu? A yw’r sgiliau cywir ar gael? Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau y
mae cymdeithasau tai yn eu gofyn i’w hunain ar hyn o bryd. Defnyddiwn
ein Grwpiau Cyflenwi Strategol sy’n cynnwys ein haelodau i fireinio ein
polisi yn y maes hwn ac i ddeall yn well yr heriau sy’n wynebu
cymdeithasau tai. Mae’r gofodau hyn yn caniatáu rhannu arfer gorau a
gwaith sy’n mynd rhagddo am adeiladu cartrefi ansawdd da, carbon isel ac
ôl-osod cartrefi presennol fel eu bod yn fwy effeithiol o ran ynni.


Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid
allanol eraill i rannu gwybodaeth, datrys problemau a dylanwadu ar
benderfyniadau.


Rwy’n gweithio gyda’n tîm Datblygu Busnes ar hyn o bryd i drefnu
Cynhadledd Datgarboneiddio fydd yn cysylltu, cefnogi a chymell
landlordiaid cymdeithasol i ddilyn rhaglenni datgarboneiddio yn
helaeth ac yn gyflym. Mae hyn yn dilyn cynhadledd un-dydd lwyddiannus
iawn y gwnaethom ei chynnal yn 2019.


Mae gweithio ar y mater pwysig hwn yn werth chweil iawn wrth i ni
geisio sicrhau fod tai ar flaen y gad mynd i’r afael â’r argyfwng
hinsawdd.”


Will Henson sy’n gyfrifol am waith digartrefedd ar gyfer CHC. Dyma pam fod ei waith mor bwysig:


“Ynghyd â’n haelodau, credwn y dylai fod cartref da fod yn hawl
sylfaenol i bawb. Fodd bynnag, er cyflenwi dros 20,000 o gartrefi
fforddiadwy dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn dal beth ffordd rhag
cyflawni ein cenhadaeth.


Cyhyd â bod yr argyfwng tai yn parhau, bydd cymdeithasau tai yn dal i
fod â ffocws ar ddarparu cartrefi a chymorth ar gyfer pobl sy’n wynebu
digartrefedd yng Nghymru. Ni fu’r gefnogaeth hon erioed yn fwy
tyngedfennol na dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Yn ystod blwyddyn
gyntaf y pandemig, ymatebodd cymdeithasau tai drwy ddarparu bron i
hanner y cartrefi oedd ganddynt ar gael i bobl oedd yn ddigartref neu
mewn risg o ddod yn ddigartref, gan sicrhau fod ganddynt le i fyw.


Ynghyd ag ymateb i’r argyfwng oedd ar ein gwarthaf, mae ein gwaith
hirdymor i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru yn parhau. Rydym yn
gweithio’n agos gyda Shelter Cymru ac eraill i sicrhau nad oes neb yn
dod yn ddigartref o dai cymdeithasol, drwy adeiladu partneriaethau yn
lleol ac yn genedlaethol, ac annog ymateb ar draws y sector cyhoeddus i
ddigartrefedd yn cynnwys y gwasanaeth iechyd a chynghorau.


Mae Cymru yn diwygio ei dulliau at fynd i’r afael â digartrefedd,
gydag ailgartrefu cyflym a Tai yn Gyntaf i ostwng yn sylweddol faint o
amser y dylai unrhyw un ei dreulio heb gartref a’r risg y bydd
digartrefedd yn ailddigwydd. Mae gan gymdeithasau tai yr egni a’r
arbenigedd i sicrhau’r newid hwn a byddaf yn parhau i weithio’n agos
gyda’n haelodau, rhanddeiliaid a’r llywodraeth i wneud llwyddiant
ohono.”


Mae sicrhau fod rhenti yn fforddiadwy i denantiaid yn bwysig
tu hwnt i gymdeithasau tai yng Nghymru, dyna pam fod gwaith Hayley
Mcnamara yn canolbwyntio ar y maes polisi hwn. Mae’n esbonio’r hyn mae
hyn yn ei olygu:


“Mae’n rhaid i gymdeithasau tai sicrhau fod eu rhenti yn fforddiadwy i
denantiaid, a byddant yn gweithio gyda’u tenantiaid i wneud yn siŵr fod
cost y rhent yn adlewyrchu’r ardal leol. Rwy’n gweithio gyda’n haelodau
i roi pecyn cymorth yn ei le i’w cynorthwyo gyda’u hystyriaethau
fforddiadwyedd pan fyddant yn cynnal eu hadolygiadau rhent blynyddol.
Mae hon yn rhaglen waith barhaus ac mae’n cynnwys set o ddulliau ac
adnodau i gymdeithasau tai eu defnyddio i benderfynu fforddiadwyedd ar
gyfer tenantiaid, yn cynnwys datblygu ein Teclyn Fforddiadwyedd Rhent ac
Egwyddorion Fforddiadwyedd.


Rwyf hefyd yn gweithio i wella dealltwriaeth a rhoi sicrwydd o
ymrwymiadau’r sector i fforddiadwyedd drwy gyfathrebu ein gwaith i
randdeiliaid allanol. Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn
y tîm cyfathrebu a thimau cyfathrebu ar draws y sector i wneud yn siŵr
fod yr iaith a ddefnyddiwn yn glir ac yn ddealladwy i denantiaid, ac i
drin unrhyw heriau a allai fod.”


Mae sylw Laura Courtney yn gadarn ar y Credyd Cynhwysol a’r
effaith y gallai unrhyw newidiadau ei gael ar denantiaid cymdeithasau
tai yng Nghymru. Bu’n gweithio gyda Sarah Scotcher, Swyddog Prosiect
Polisi a Materion Allanol, i ddeall sut olwg sydd ar yr effaith hwnnw ar
draws ein haelodaeth. Mae Sarah yn esbonio’r hyn mae hyn yn ei olygu:


“Nôl ym mis Ebrill 2020, cafodd lwfans safonol Credyd Cynhwysol ei
godi gan £20 yr wythnos fel rhan o ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i
Covid-19. Mae’r taliad chwyddo i ddod i ben ym mis Medi 2021 ac wrth i
ymyl y dibyn ddod yn nes, mae effaith y newid hwn yn dod yn gynyddol
amlwg.


Bu cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithio gyda thenantiaid i ddeall
effaith yr £20 yr ychwanegol yr wythnos. Bu’r canlyniadau yn
ddigamsyniol: mae’r cynnydd hwn yn y Credyd Cynhwysol wedi gwneud
gwahaniaeth enfawr. Mae wedi golygu fod y budd-dal yn awr yn ddigonol
i’w helpu i fforddio costau sylfaenol tebyg i fwyd, gwresogi a
chysylltedd tra maent ar incwm isel neu’n edrych am waith – a byddai gan
ddod ag ef i ben effaith drychinebus.


Rydym yn gweithio gyda’n chwaer ffederasiynau yn Lloegr, yr Alban a
Gogledd Iwerddon, gan ymuno i ddarbwyllo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i
ailystyried dod â’r taliad chwyddo i ben. Rydym hefyd yn cefnogi ein
haelodau gydag ymgyrch ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg y
tenantiaid yr effeithir arnynt, fel y gallant baratoi cymaint ag sy’n
bosibl.”


Rydym hefyd yn edrych am rywun i ymuno â’r tîm Polisi i
ganolbwyntio ar iechyd yn ogystal â dau Bennaeth Polisi a Materion
Allanol i oruchwylio’r gwaith hwn ac arwain ar ddylanwadu. Os yw hyn yn
swnio fel chi, a’ch bod yn hoffi’r syniad o ymuno â’r tîm deinamig yma,
mae mwy o wybodaeth a manylion sut i wneud cais ar gael yma:


https://chcymru.org.uk/en/view-job/policy-external-affairs-manager-18months


https://chcymru.org.uk/en/view-job/head-of-policy-external-affairs-roles