Jump to content

26 Mai 2022

Cartrefi Cymunedol Cymru yn penodi Pennaeth Cyllid a Llywodraethiant newydd

Cartrefi Cymunedol Cymru yn penodi Pennaeth Cyllid a Llywodraethiant newydd

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn hynod falch i gyhoeddi penodiad ei Bennaeth Cyllid a Llywodraethiant newydd, Katrina Michael.

Bu Katrina yn gweithio yn y sector tai am fwy na 25 mlynedd. Mae ganddi gymwysterau mewn cyllid a llywodraethiant, gyda phrofiad helaeth mewn gwella a newid busnes, yn cynnwys sefydlu cymdeithas tai newydd drwy drosglwyddo stoc.

Er iddi dreulio llawer o’i gyrfa yng Nghymru, mae Katrina hefyd wedi gweithio i un o’r cymdeithasau tai mwyaf yn Llundain ac ar hyn o bryd mae’n Brif Swyddog Cyllid Alliance Homes, sy’n seiliedig ger Bryste. Mae wedi gweithio’n flaenorol fel aelod o fwrdd a thrysorydd Cartrefi Cymunedol Cymru.

Yn ei swydd bresennol, mae Katrina wedi arwain trawsnewid yn y swyddogaeth cyllid a rheolaeth trysorlys, gan arwain at wella gwerth am arian yn y gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid.

Dywedodd Katrina, “Rwy’n falch iawn i ymuno â CHC ym mis Medi. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi gwaith gwych CHC, gan weithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai i gyflawni’r weledigaeth o gartref da fel hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru.

Meddi Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru: “Rydym yn falch iawn y bydd Katrina yn ymuno â’n tîm yn ddiweddarach eleni, ar ôl bod yn ased yn flaenorol i fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru.

“Bydd profiad ac arbenigedd helaeth Katrina yn ein helpu i gryfhau ein swyddogaeth cyllid a’n strwythurau llywodraethiant ymhellach ar ôl i ni symud i fod yn sefydliad gweithio o bell, digidol yn gyntaf a bydd yn helpu i sicrhau y gall CHC barhau i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth rhagorol i’n haelodau.”

Bydd Katrina yn dechrau ar ei rôl newydd gyda Cartrefi Cymunedol Cymru ar 13 Medi 2022.