Jump to content

13 Awst 2013

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - Cyhoeddi Adroddiad Pwyllgor Cam 1

Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad Cam 1 yn dilyn cyfnod o ymgynghori a sesiynau tystiolaeth. Yn ein hadroddiad dechreuol fe wnaethom bwysleisio'r angen i sicrhau fod tai'n cael ei ystyried fel penderfynydd allweddol mewn llesiant unigolion. Croesawn y gydnabyddiaeth o hyn gan y Pwyllgor sydd yn Argymhelliad 6 yr adroddiad wedi pwysleisio'r angen am fwy o gydnabyddiaeth i dai. Gwneir hyn un ai drwy ei gynnwys drwy "Safon byw" neu drwy addasu'r diffiniad cyfredol i gynnwys tai addas a byw annibynnol.
Ymatebodd Matt Kennedy (Swyddog Polisi - Gofal, Cymorth ac Iechyd Cymunedol): "Mae'r gydnabyddiaeth gan y pwyllgor fod gan dai rôl ganolog wrth gynnal llesiant unigolion yn galonogol iawn. Er ein bod yn croesawu’r argymhelliad cyffredinol, bydd angen rhoi mwy o ystyriaeth i fanylion pob opsiwn. Er enghraifft, gall cynnwys tai dan "Safon byw" leihau ei bwysigrwydd, gan y gall hyn gwmpasu llawer o agweddau eraill o fywyd unigolyn."

Byddwn yn parhau i weithio gydag aelodau i sicrhau y rhoddir sylw priodol i'r rôl y gall aelodau ei chwarae wrth sicrhau canlyniadau gwasanaethau cymdeithasol a gwella llesiant unigolion. Mae adroddiad llawn Cam 1 ar gael yma: <http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/cr-ld9418-e.pdf?langoption=3&ttl=CR-LD9418%20-%20Health%20and%20Social%20Care%20Committee%3A%20%20Stage%201%20Committee%20Report%2C%20Social%20Services%20and%20Well-being%20%20%28Wales%29%20Bill>