Jump to content

06 Awst 2013

Lansio Adeiladu Menter i dyfu mentrau cymdeithasol lleol

Bydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt heddiw'n cyhoeddi hwb cyllid o £900,000 gan yr Undeb Ewropeaidd i feithrin cydweithio rhwng mentrau cymdeithasol a chymdeithasau tai i gryfhau gwasanaethau er budd cymunedau lleol.

Dan arweiniad Cartrefi Cymunedol Cymru, bydd y prosiect Adeiladu Menter yn cynorthwyo tua hanner cant o sefydliadau ac unigolion i dyfu mentrau cymdeithasol lleol fydd yn cefnogi cymdeithasau tai i ddarparu gwasanaethau a chynnyrch megis ailgylchu, gofal cymdeithasol, adeiladu a chynnal a chadw.

Bydd y prosiect yn defnyddio sefyllfa a pherthynas unigryw'r sector tai cymdeithasol gyda phobl mewn cymunedau i ddatblygu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a busnes newydd i helpu darparu a gwella gwasanaethau allweddol.

Ffocws y prosiect yw sicrhau fod y cymdeithasau tai sy'n cymryd rhan yn ymwreiddio dimensiwn menter gymdeithasol ym mhob cyfle caffaeliad a datblygu.

Wrth gyhoeddi'r cyllid yn yr Eisteddfod Gymdeithasol, dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt: "Mae cydweithio yn ganolog i strategaethau Llywodraeth Cymru ac rwy'n hynod falch ein bod wedi gallu buddsoddi cyllid yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi'r cynllun hwn fydd o fantais i lawr o gymunedau difreintiedig. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i fanteision y sector menter cymdeithasol a'r hyn y mae'n ei gynnig i fywyd economaidd Cymru."

Bydd gan y prosiect dîm staff penodol o ddau, Anthony Hearn, Comisiynydd a Chydlynydd y Prosiect a Jo Wakeham, Cymhorthydd Cyllid a Gweinyddiaeth gyda chefnogaeth hyblyg gan staff Cartrefi Cymunedol Cymru.

Dywedodd Anthony Hearn: "Mae Adeiladu Menter yn gyfle gwirioneddol i feddwl yn wahanol a gwneud yn wahanol. Yn ogystal â chynyddu gallu cymdeithasau tai i gefnogi a chreu galw, byddwn yn creu ac yn cynnal swyddi mewn cymunedau lleol, cynyddu lefelau sgiliau a hyder pobl leol a chreu cylch cynaliadwy o fuddsoddiad a thwf yn y meysydd hyn."

Ychwanegodd Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi ac Adfywio CHC: "Mae cymdeithasau tai yn fentrau cymdeithasol aeddfed ynddynt eu hunain; maent yn gyrff dim-er-elw sy'n darparu gwasanaethau ac sy'n buddsoddi yn y cymunedau a wasanaethant. Mae'r cryfderau a'r galluoedd hyn yn golygu eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi mentrau cymdeithasol lleol eraill ac mae Adeiladu Menter yn gyfle cyffrous i wneud hyd yn oed mwy i fuddsoddi mewn cymunedau lleol."

Os ydych yn gymdeithas tai, menter gymdeithasol neu entrepreneur fydd angen cefnogaeth sefydliad fydd yn 'meddwl a gwneud yn wahanol', edrychwch ar
www.buildingenterprise.org i gael y manylion cymhwyster, cwestiynau cyffredin a ffurflen gais.

Hyd yma, mae prosiectau'r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi cynorthwyo dros 140,000 o unigolion i ennill cymwysterau ac wedi helpu tua 50,000 o unigolion i waith. Yn ychwanegol, cafodd bron 19,600 o swyddi (gros) a bron 6,000 o fentrau eu creu.

DIWEDD

Bydd y Gweinidog yn lansio Adeiladu Menter yn stondin D13/14 ddydd Mawrth 6 Awst. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os hoffech fynychu. Mae gennym nifer o enghreifftiau o astudiaethau achos lle mae cymdeithasau tai eisoes yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol. Gadewch i mi wybod os gwelwch yn dda os hoffech ddefnyddio unrhyw rai o'r astudiaethau hyn ar gyfer dibenion y cyfryngau.

I gael mwy o wybodaeth ar y prosiect cysylltwch â:

Cartrefi Cymunedol Cymru 07791898497 edwina-ohart@chcymru.org.uk