Jump to content

30 Hydref 2017

Beth allai'r system cyllido tai â chymorth newydd ei olygu ar gyfer y dyfodol?

Beth allai'r system cyllido tai â chymorth newydd ei olygu ar gyfer y dyfodol?
Caiff cynllun ei gyhoeddi ddydd Mawrth 31 Hydref ar gyfer system cyllido newydd ar gyfer tai â chymorth. Ond beth allai hyn ei olygu ar gyfer y dyfodol? Dyma sylwadau Will Atkinson, Swyddog Polisi.


Mae'r sector tai yn dal i ystyried y cyhoeddiad enfawr a wnaed yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher diwethaf na chaiff y Lwfans Tai Lleol (LHA) ei weithredu ar gyfer tai â chymorth na thai cymdeithasol anghenion arbennig.


Yng Nghymru roedd yr ochneidiau o ryddhad yn neilltuol o gryf, yn arbennig gan ein bod y diwrnod blaenorol wedi cyhoeddi ein dadansoddiad o effaith polisi'r cap LHA ac wedi galw am i'r polisi gael ei ddiddymu. Pe byddai'r cap LHA wedi ei weithredu, byddai tenantiaid cymdeithasau tai Cymru wedi dioddef gan orfod llenwi bwlch o £15 yr wythnos eu hunain mewn rhai ardaloedd. Byddai unrhyw bolisi heblaw diddymu'r polisi wedi bod yn drychinebus.


A yw'r newyddion da wedi dod i ben? Daw'r ateb i hynny yng nghyhoeddiad ddydd Mawrth ar gyllid ar gyfer tai â chymorth yn y dyfodol.


Nawr y gwyddom na fydd yr LHA yn sail i unrhyw fodel cyllido newydd, mae llawer o ddyfalu am sut y caiff tai ar gyfer pobl agored i niwed eu cyllido. Ni all y polisi arfaethedig o gyllido drwy LHA ynghyd â chronfa atodol fynd yn ei flaen.


Felly beth yw'r dewisiadau tebygol?


Dywedodd ffynonellau y cyhoeddir model cyllido tair-ochrog, yn gwahanu tai pobl hŷn, tai â chymorth tymor byr megis hostelau a gweddill tai â chymorth megis cartrefi ar gyfer rhai gydag anableddau.


Mae'r model y sonnir amdano yn iawn i gynnal y sefyllfa fel y mae ar gyfer llety pobl hŷn megis tai gwarchod, er yn cynnig i gyflwyno costau tai drwy gredyd pensiwn neu gredyd treth yn hytrach na budd-dal tai. Mae hyn yn taro tant gyda chynllun yr Adran Gwaith a Phensiynau i symud i ffwrdd o fudd-dal tai cyn gynted â 2022. Mae'r awgrym y caiff credydau treth eu defnyddio ynghyd â chredyd pensiwn hefyd yn ensynio na chaiff tai pobl hŷn eu diffinio gan oedran y tenantiaid, yn hytrach nag elfennau o'r adeilad megis gofodau cymunol sy'n gwneud tai gwarchod a gofal ychwanegol yr hyn ydynt.


Awgrymwyd y caiff tai cymorth tymor byr ac argyfwng, megis hostelau a llochesi, eu cyllido drwy grant llawn ar wahân i'r system budd-daliadau ac a gyflwynir, yn ôl pob tebyg, gan awdurdodau lleol neu weinyddiaethau datganoledig. Byddai hyn yn bolisi cadarn a chlir i ddatrys problemau posibl a achosir gan Gredyd Cynhwysol mewn tai tymor byr, yn bennaf oherwydd mai dim ond ar sail fisol y gellir cyfrif costau tai yn hytrach nag yn ddyddiol dan fudd-dal tai. Mae hyn yn golygu efallai na fydd tenantiaid sy'n symud o lety tymor byr cyn diwedd eu cyfnod asesu yn atebol i dalu costau tai. Un beth i gadw golwg amdano fydd y diffiniad a ddefnyddir i benderfynu'n union beth yw llety â chymorth tymor byr.


Popeth yn iawn hyd yma. Fodd bynnag, mae pethau da yn tueddu i ddod mewn trioedd ac, yn y cyd-destun hwn, mae hyn yn cynnwys diddymu'r cap LHA, cyllid teg ar gyfer tai â chymorth pobl hŷn a datrysiad polisi call i Gredyd Cynhwysol mewn hostelau. Gallai'r trydydd cynnig y sonnir amdano yn Inside Housing fod yn rhif 4 anlwcus.


Ni fydd yr awgrym y dylai tai â chymorth hirdymor oedran gwaith gael ei gyllido drwy lwfans tai â chymorth (SHA) yn sioc. Galwyd amdano mewn ymchwiliad ar y cyd gan y pwyllgorau Gwaith a Phensiynau/Cymunedau a Llywodraeth Leol ar gyllid tai â chymorth yn y dyfodol. Fe wnaethom hefyd alw am ei weithredu fel cyfaddawd rhwng yr LHA ag atodiad arfaethedig a'r sefyllfa bresennol.


Yn gryno, byddai SHA yn dal i gyflwyno cyllid craidd drwy fudd-dal tai/credyd cynhwysol, ond yn creu capiau cost tai ar gyfer isadrannau tai â chymorth yn seiliedig ar wir gost darparu'r llety hwnnw. Byddai’n amrywio'n rhanbarthol ar draws Prydain a byddai'n dal i fod angen cronfa atodol, er un llawer llai nag a gynigid dan y cynnig LHA + atodiad a gyhoeddwyd yn 2016. Bydd manylion SHA yn hollbwysig. Sut y caiff y capiau eu penderfynu? Beth fydd yr amrywiadau rhanbarthol? Sut y gweinyddir yr atodiad? Mae'n ddi-os ei fod yn fodel tecach na'r LHA ac atodiad ond gellid dadlau ei fod yn fwy cymhleth.


Swnio'n dda? Wel ydi, ar bapur. Y broblem yw, unwaith y darperir ar gyfer tai â chymorth pobl hŷn a thai â chymorth tymor byr, nad oes lawer iawn o dai â chymorth ar ôl i weithredu cap lwfans tai â chymorth iddo.


Ar draws Prydain, yn ôl yr Adolygiad Tai â Chymorth, daw 71% o dai â chymorth dan gylch gorchwyl pobl hŷn. Mae 10% arall yn cyfrif am lety hostel a lloches, felly'n debygol o gael ei ddiffinio fel tai â chymorth tymor byr. Mae hyn yn gadael 19% yn unig i gael ei gyllido dan lwfans tai â chymorth ac mewn gwirionedd caiff peth o'r 19% hwnnw hefyd ei ddiffinio fel tymor byr.


Mae'r adran yma hyd yn oed yn llai yng Nghymru. Dim ond 15% o dai â chymorth sydd ar ôl unwaith y tynnir tai â chymorth pobl hŷn a thymor byr. Mae hyn yn gyfanswm o lai na 6000 uned.


Pam mynd i'r holl drafferth o gynllunio system lwfans tai â chymorth, yn cynnwys y trefniadau gweinyddol ar gyfer system atodol gysylltiedig, dim ond i ddarparu am lai na 20% o'r unedau tai â chymorth ar draws Prydain? Byddai cost a risg cyflenwi'r cyllid yn llawer mwy na'r rheolau cost cynnil. Dylai llety â chymorth hirdymor oedran gwaith gael ei ddiogelu yn yr un modd â thai â chymorth ar gyfer pobl hŷn. Dylai gael ei gyllido'n llawn drwy'r system budd-daliadau, heb unrhyw gapiau na lwfansau.