Jump to content

28 Hydref 2019

Arweinyddiaeth â churiad calon dynol

Arweinyddiaeth â churiad calon dynol
Bydd Gemma Morgan, sefydlydd Morgan Eight, yn cynnal sesiwn yn y Gynhadledd Flynyddol eleni yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth. Nid yw ei phrofiadau fel arweinydd wedi eu cyfyngu i'r ystafell fwrdd a busnes, mae ganddi ugain mlynedd o brofiad o'r fyddin a chwaraeon elite hefyd. Yma mae'n rhoi syniad i ni o'r hyn i'w ddisgwyl.


"Cefais y fraint anhygoel o gael peth o'r hyfforddiant gorau ar arweinyddiaeth yn y byd, gan hyfforddi fel swyddog yn yr Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst. Yno y dechreuais ystyried y math o arweinydd y dymunwn fod, felly pan symudais ymlaen i'r ymgynghoriaeth yma, roeddwn yn gallu rhoi'r sgiliau hynny ar waith mewn amgylchedd gyda ffocws busnes.


"Nid y fyddin oedd fy mhrofiad cyntaf o fod yn arweinydd, serch hynny. Fel oedolyn ifanc fe wnes gystadlu ar lefel ryngwladol, gan fod yn gapten tîm lacrosse Cymru a chymryd rhan mewn tair Cwpan Byd. Yn yr amgylchedd hwnnw, dysgwyd i mi mai bod yn arweinydd oedd bod yn arwr, bod y person sy'n sgorio'r nifer fwyaf o goliau ac yn achub y dydd.


"Fe wnaeth ymuno â'r fyddin newid yr ymagwedd honno'n llwyr. Arwyddair Sandhurst yw 'gwasanaethu i arwain', gan eich dysgu nad amdanoch chi mae arweinyddiaeth, mae'n ddewis, dyletswydd gwasanaeth i eraill. Pan oeddwn yn gweithio yn Kosovo cyn ymgyrch NATO, cafodd fy arweinyddiaeth ei phrofi ymysg realaeth lem gwrthdaro rhwng pobl. Ar ôl dod adre, wyddwn i ddim fod y frwydr galetaf eto i ddod. O faes y gad i'r ystafell fwrdd, efallai mai fy stori yw'r hyn nad yw'r gwerslyfrau yn ddweud wrthych.


"Heddiw rwy'n deall fod arweinwyr cydnerth yn ysbrydoli ymdeimlad dyfnach o ystyr, ymddiriedaeth a rhyng-gysylltiad rhwng pobl. Mae rhai'n gweld hyn fel 'pethau meddal' ond rwy'n creu mai'r cysylltiad dynol sy'n ein cadw yn fyw.


"Rwy'n edrych ymlaen at rannu fy sylwadau gyda'r sector tai yn y Gynhadledd Flynyddol eleni."


Archebwch eich tocyn ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol yma.